geiriau gwirion am hyn a'r llall

Wednesday, December 30, 2009

Llannefydd dan eira


Llannefydd dan eira
Originally uploaded by traed mawr
Noson ar y "tir uchel".

Monday, December 21, 2009













Nadolig Llawen

Monday, November 02, 2009

Pepsi mewn dyfroedd dyfnion

Leciwn i ddim bod yn sgidie'r ysgrifenyddes druan yn Pepsico, sydd wedi costio $1.26 BILIWN i'r cwmni, oherwydd iddi anghofio pasio llythyr ymlaen.

Dyma wers i bawb bod angen cofnodi a thracio gohebiaeth o bob math!

Wele'r stori yma

Monday, September 28, 2009

The Age of Stupid

Wednesday, September 23, 2009



















Joanna Quinn

Fe fydd arddangosfa o waith yr animeiddwraig o Gymru yn cael ei gynnal Amgueddfa'r Cyfryngau yn Bradford. 16 Hydref 2009 - 21 Chwefror 2010.

Tuesday, September 22, 2009

Rhoi'r brêcs ar Ferodo

Mae llywodraeth Lloegr wedi'r rhoi'r brêcs ar y cynllun i adeiladu carchar ar hen safle Ferodo / Dynamex .

Addas iawn a chysidro mai cynhyrchu brêc ceir oedd y ffatri.

Saturday, September 19, 2009


Ffydd gobaith a chariad

Ddoe, agorwyd Ystafell Ddarllen y Gogledd y LLyfrgell Genedlaethol ar ei newydd wedd.

Cafwyd cerdd gen Gillian Clarke, i'w chyfieithu rywbryd gan Menna Elfyn, yn disgrifio darllenwyr fel creyr glas, sbitsis gan y Llyfrgellydd, Llywydd y Llyfrgell a'r Gweinidog Diwylliant. Neis iawn.

Wele fe wawriodd hyfryd ddydd, ac mae'r lle wedi ail-agor.

Roedd dirfawr angen trwsio a diweddaru'r hen le, ac wedi hir ymaros, beth yw'r "verdict"? Hyd yn oed i sinic fel fi, dim ond dau air wneith y tro, sef "Hollol wych".

Mae agor y fath ystafell ar adeg pan mae llai a llai o bobl yn camu dros drothwy llyfrgelloedd yn dangos ffydd a hyder y sefydliad ei hun, a'r Cynulliad, yn nyfodol y lle. Felly hefyd y buddsoddiad mewn systemau rheoli cofnodion a digido. Fe fydd rhywun yn troi rown mewn 20 mlynedd a, gobeithio, yn dweud "diolch fyth bod y Llyfrgell wedi buddsoddi fel gwanaethon nhw ar droad y ganrif..."

Hwre. Ymlaen a ni. Ond nawr, ys gwn i a gawn ni ganolbwyntio ar warchod a datblygu'r casgliadau eu hunain? Y nhw yw'r rheswm dros yr adeilad ("y drysorfa"), dros fodolaeth y lle. Heb gasgliadau, heb ddim. Ac mae grant pwrcasu casgliadau'r Llyfrgell yn anghredadwy o fach. Mae'r casgliadau yn bethau i ymfalchio ynddyn nhw, mae nhw fel ffrindiau, fel cymdeithas, yn swyno fel cariadon. Wedi canrif o briodas rhwng yr adeilad a'i chynnwys, peidier a chymryd hanner pwysica'r briodas yn ganiataol.

Wednesday, September 09, 2009

40 mlynedd ers y ddeddf dwyieithrwydd yng Nghanada

Erthygl ar safle newyddion CBC.

Yr ymateb i'r erthygl yn hynod o ddiddorol - gobeithio na fyddwn ni'n dal yng ngyddfau'n gilydd ymhen rhyw 30 mlynedd arall.

Diddorol hefyd yng nghyd-destun yr helynt diweddaraf am atal cyfieithu "Cofnod" yn ein Cynulliad bach ni.

Sunday, July 12, 2009

Nid y Llyfrgell Genedlaethol - y tro hwn.

Y gwasanaethau darllen i'w cwtogi, gan gynnwys agor ddiwrnod yn llai yr wythnos, er mwyn sicrhau bod digon o arian ar gael i barhau eu rhaglen ddigido.



Yn ol llefarydd ar ran y TNA (Archifau Cenedlaethol y DU, nid y syrcas wreslo) yn yr Independent "We have looked at ways in which we can make savings across the organisation, and reducing opening hours will enable us to continue to invest in our online services. We have a budget allocation which has been set for three years, but we need to make savings of 10 per cent to enable us to continue investing in digitalisation."

Erthygl lawn yr Independent yn y fan hyn

Saturday, July 11, 2009

Porthi'r Ddraig

Porth Carnival on Twitpic


Carnifal y Porth. Llun gan Leighton Andrews ar Twitpic - diolch.

Edrych yn lot o hwyl diniwed, ac yn dilyn hen draddodiad.

Gwyliwch carnifal yn y Cymoedd 83 mlynedd yn ol - byddwch yn amyneddgar a rhoi cyfle i'r ffilm (reit hir) lwytho - mae'n werth aros.


.
Cilcyn o ddaear ddigidol.

Monday, June 29, 2009























5 Diwrnod o ryddid

Mae America yn honni mae hi yw gwlad cyfleoedd, cydraddoldeb a rhyddid. Wel, cyfleoedd efallai, rhyddid, wn i ddim wir, cydraddoldeb, "no way".

Fe dyngais adeg dechrau rhyfel Irac, na fuaswn yn twllu gwlad "y rhydd" tra byddwn fyw, ond wedi'i Obama ddod yn Arlywydd, fe ddiddymais fy llw, a mynd draw i'r brifddinas am 5 diwrnod, i weld sut sioe oedd Cymru wedi llwyddo i'w chreu ar gyfer Gwyl Werin y Smithsonian.

Gyda'm llaw ar fy nghalon, a than y faner gyda'i ser yn disgleirio, gallaf ddweud yn ddiffuant, nad wyf wedi cael y fath hwyl ers blynyddoedd.

Er fy mod yno ar wyliau, ac i gefnogi rhan o'r wyl ymylol (Gwyl Ffilmiau o Gymru, os ydych eisiau gwybod), fe gefais fy llusgo i mewn i sawl gweithgaredd, a bu bob diwrnod yn llawn i'r brig o brofiadau newydd a bythgofiadwy. Yr unig flas cas oedd nad oedden ni, bobl yr ymylon, yn cael ein trin yn gyfartal a phawb arall, a hynny o bell ffordd. Ond dyna fel mae hi ar ffiniau pethau bod amser, ynte? Ta waeth, fel Cymry, rydym wedi hen arfer ag anghyfartaledd, felly doedd y teimlad o fod yn is-raddol ddim byd newydd.

Beth fyddaf yn ei gofio fwyaf o'r profiad?
1. Nad yw'r Americanwr cyffredin yn gwybod UNRYW BETH o gwbl, gwbl am Gymru. Mae rhaid dechrau pob sgwrs, a'i chynnal, gan gofio nad oes modd cymryd dim yn ganiataol.
2. Mae'r rhai sy'n gwybod mymryn am Gymru yn meddwl bod y diweddar Diana yn dod o'r wlad, a bod Charles yn byw mewn castell mawr yma.
3. Mae nhw'n hoffi holi am bopeth, ac eisiau dysgu amdanom, ond yn aml nid oes gan eu cwestiwn unrhyw beth o gwbl i wneud gyda'r pwnc dan sylw ar y pryd.
4. Nid yw'r Americanwyr wedi'u clymu i reolau iechyd a diogelwch a ballu. "jest get on with it".

ac yn bennaf oll
5. Fod yr Americanwyr yn llawn awydd i ddysgu ac i brofi pethau, ac i wybod mwy o lawer am wledydd eraill. Mae 'na gyfle yno, bois busnes, cyrff cyhoeddus etc. Deffrwch!

A'r olaf, ond nid y lleiaf

6. Bod Rhodri Morgan yn andros o foi, yn aruthrol o glyfar a gwybodus, yn rhyfeddol o rugl (o gofio'r hwyaid ungoes) ac yn haeddu can-mil mwy o glod adref nac y mae'n ei gael. "He's a hard act to follow" dywedodd rhywun. Mor wir. A phwy neith ei ddilyn?

A'r effaith fwyaf arnaf i, yn bersonol? Dileu rhywfaint ar fy hen siniciaeth, eironig un-llygeidiog, mewnblyg, dw i'n meddwl. Wel, nes daw y siom nesaf, siwr o fod!
A tydi 5 diwrnod o ryddid ddim hanner digon.

A gyda llaw, roedd y perfformwyr a'r crefftwyr oedd (a sydd yno am wythnos arall) yn gweithio yn anhygoel o galed, ac yn gwneud job hollol wych o ddehongli'n diwylliant i'r miliwn a mwy sy'n ymweld â'r wyl.

Dyma ribdires o luniau o'r lle...

Sunday, June 21, 2009















Wales is toast


Safle ddifyr am fapiau rhyfedd, er nad yw'n cynnwys un gwych welais i blynyddoedd yn ol, yn sticio y gwledydd celtaidd at'i gilydd

Toast

Amser o Lundain (hwn 'di'r gorau sy'n cynnwys Cymru)

Friday, June 19, 2009

Mae'r boi 'ma yn wych








Burrowing into the Assembly

Diolch i'r 3 Dewi am dynnu sylw at y pla cwningod yn y Cynulliad.

Anhygoel.
Nid Mrs Milton

"Descent of an Angel"

Dawns fertigol i lawr wyneb y Llyfrgell Genedlaethol gan Kate Lawrence.

Thursday, June 18, 2009

Hael yw Hywel

Faint i roddion ar gyfer raffls mae eich aelod seneddol chi wedi prynu ar dreuliau'r wlad, ys gwn i. Darganfyddwch yma!

.

Wednesday, June 10, 2009

Roeddwn yn meddwl mai Ebrill oedd y "mis creulonaf"

Tan rwan, beth bynnag.

Ffrwydriad Gogledd Korea
Ffrwydriadau Pacistan
Y byd yn dod i ben
Diwedd GM
LDV
Aliwminiwm Mon
Llifogydd
Siambls yn San Steffan
MEPau "ferral"
Berlusconi
Ripits S4C
Helynt ITV Cymru
Cyfres arall o'r Brawd Mawr
Susan Boyle

heb anghofio y mabinogi newydd, Golwg360

"Dyma'r byd y mae tarannau, mellt a chenllysg, ddaear-gryn" Ia wir. Felly 'mae.

YCHWANEGIAD ers sgwennu hwn

Iran
Gwystlon Irac
Michael Jackson
Damwain tren Washington

.

Saturday, May 23, 2009

















Seliwleit cymreig


nefi bliw


acha Fap
n esmwyth Ca Leoliad

nefi wen

.

Friday, May 15, 2009









Golwgfa drist

Heddiw lansiwyd gwefan newyddion newydd Golwg 360.

Dyma'r canlyniad. Pob math o drafferthion technolegol. A phan oedd yn gweithio, roedd y diwyg yn wael, "logic" symud o gwmpas ddim yn gweithio yn iawn, a DIM RSS.

Dw i'n deall sut y gall gwefannau newydd gael trafferthion, a gormod o bobl yn trio cael cip i gyd yr un pryd. Ond nid dyma sydd wedi digwydd heddiw siawns. Fydd dim 30,000,000 hit i wefan fach Gymraeg ar un diwrnod, siawns.
Arian cyhoeddus - chi a fi - sydd wedi talu am y siambls yma. On ta waeth am hynny.

Mae fy nghalon yn gwaedu dros y rhai sydd yn gweithio ar y cynllun, rwy'n siwr bod eu wynebau'n biws, a'u bod mewn panig. Pam lansio pan nad oedd pethau'n barod?

Doeddwn i ddim yn gefnogol i ddewis panel y Cyngor Llyfrau, ac roedd gen i amheuon dybryd ynghylch y cynllun. Roeddwn bron a disgwyl "y gwaethaf", ond mae hyn yn waeth na'm senario dduaf.

Ond dyna'r penderfyniad; rhaid byw efo'r canlyniad, ac felly mae'n hanfodol rhoi cefnogaeth i Golwg 360. Mae'n ddatblygiad hynod o bwysig i'r iaith ac i hygrededd yr iaith. RHAID i'r fenter hon weithio. Fe fyddai methiant yn gnoc sylweddol. Felly rwy'n mawr obeithio mai problemau bach oedd y rhai a welais heddiw (er rwy'n amau, gan fod rhai i'w gweld yn sylfaenol iawn i strwythur, diwyg a codio'r wefan).

Pan godaf o'r gwely bore yfory, fy ngobaith taeraf yw y byddaf yn gallu clicio ar y wefan, a bydd newyddion y byd i'w weld ar fy sgrin, mewn diwyg hyfryd, yn yr iaith Gymraeg.

Os nad yfory, drennydd, os nad drennydd - dradwy, ond os nad dradwy, fe gliciaf ar RSS Newyddion BBC Cymru, ac fe fyddaf yn falch bod gan Cymru un corff o leiaf y gellir trystio i wneud "jobyn teidi".

"Roedd y penderfyniad gant y cant yn gywir" meddai Alun Ffred. Gobeithio na fydd yn gorfod llyncu'i eiriau.

Tuesday, May 05, 2009




Oes Gafr Eto?








Animeiddiad cynhara'r byd

"Burnt City Wild Goat" o Iran c. 5 mil oed!

Mae 5 llun o afr yn neidio i gyrraedd y dail wedi'u peintio ar fowlen. O roi'r 5 llun at ei gilydd, mae'n creu animeiddiad o'r afr yn neidio.

Ewch i weld yr afr yn neidio a dysgu am y cefndir yn y fan hyn.

Thursday, April 23, 2009

4 Wal - ble mae'r drws?

Gan nad wyf yn ffarmwr, na'n warden parc cenedlaethol, na'n Iolo Williams, ond yn hytrach yn un o'r miliynau sy'n treulio eu dyddiau mewn swyddfeydd, ystafelloedd gwestai rhad, neu mewn trenau, neu ceir a bysiau, rwy'n reit gyfarwydd a bod oddi fewn i ffiniau pedair wal o ryw fath neu'i gilydd.

Rwy'n ddigon o voyeur i fwynhau rhaglenni teledu sy'n agor drysau ar dai diarth, megis "A place in the sun", ond fy hoff raglen stwffio-fy-nhrwyn-i-gartrefi-pobl-eraill yw 4 Wal ar S4C. Yn enwedig y gyfres am dai hanesyddol Cymru.

Ond och a gwae, fe gefais ddadrithiad yn y rhaglen ddiweddaraf - gwestai'r byd. Gobeithio mai hiccup yw'r rhaglen hon, ac y cawn ni agor rhagor o ddrysau tai hanesyddol ac ati yn y dyfodol.

Mae'r rhaglen gyntaf yn y gyfres hon yn rhoi'r argraff bod y ffrwd syniadau gwreiddiol wedi dod i ben, wedi taro yn erbyn wal, fel petai, a'r fformiwla wedi chwythu'i blwc.

Malu awyr siwdaidd, arwynebol, ac yn anaddas ar gyfer hwyl wael y cyfnod ol-binj benthyca rydym ynddo nawr. Mae'r rhaglen yn rhoi'r argraff o fod yn romp-ar-dreuliau rownd byd bling.

Mae'r rhaglen Byw yn yr Ardd wedi darllen vibes ein heddiw newydd diflas i'r dim. Fe ddylai comisiynwyr 4 Wal ystyried addasrwydd rhaglenni "cyrraeddiannol" "dyheuadol" megis 4 Wal - neu o leiaf 4 Wal - gwestai'r byd, ar gyfer y Gymru sydd ohonni. Ond prin y digwyddith hyn, o sylweddoli bod cartref S4C wedi'i droi o fod yn uned lled-ddiwydiannol, iwtilitaraidd i fod yn eglwys gadeiriol i steil a dylunio slic.

Os am weld yr hyn sydd wedi codi'r fath felan arnaf, ewch yma (fe ddylai'r linc barhau am ryw fis).

Tuesday, April 14, 2009


Visitheminister.cym





Y bunt yn wan yn erbyn yr ewro a'r ddoler

Pethau'n dynn arnoch?

Yn poeni am yr amgylchfyd ac am ymwrthod rhag hedfan?

Eisiau cefnogi busnesau lleol a Chymreig?

Ai dyma'r cyfle fwya euraid ers degawd i hybu gwyliau lleol?

Ar dan eisiau gwybod am y lle gorau i wneud hyn oll?

Ewch i'r wefan hon i ddarganfod beth sydd gan Gymru fach i'w chynnig i chi y flwyddyn hon.

Gyda diolch i Nwdls

.

Tuesday, March 31, 2009


Marcio

Gosod marc. Marciau.

Mae'r gair "marcio" yn gallu golygu pob math o bethau gwahanol.

I blentyn ysgol neu fyfyriwr, mae marciau yn golygu canlyniad; cael gwybod pa mor dda neu wael y mae ef neu hi wedi gwneud mewn arholiad, neu mewn traethawd.

I athro, mae marcio, medde nhw wrthyf i, yn broses - ac yn golygu gwaith blinderus, diflas iawn.

I'r cwmni oedd wrthi ym maes parcio'r gwaith, roedd yn golygu mesur a pheintio llinellau syth, gwyn, coch a melyn. A lluniau rhyfedd o gerddwyr.

I'r gyrrwr, mae marciau yn dynodi rheolau i'w dilyn, rhybuddion a llinellau sy'n eu cadw ar y llwybr cywir.

I gathod a chwn, mae marcio yn golygu diffinio tiriogaeth.

I nifer fawr o ddynion, mae Marc yn dynodi enw, ac i Gristnogion, mae'n dynodi un o ddisgyblion Crist.

Weithiau mae marc yn golygu rhywun sydd dan fygythiad - bod "marc arno, neu arni".

Mae rhai pobl yn creu marc.

Mae pel-droedwyr yn marcio eu gilydd ar y cae chwarae.

Mae marcio rhywbeth yn gallu tynnu sylw, ac mae rhai pobl yn dweud "marcia hwn, fe fydd....."

I'r anllythrennog, mae'r marc yn dynodi arwyddo.

I'r pleidleisiwr, mae gosod marc yn dynodi dewis.

Ond fel dywedodd Stalin, nid y bobl sy'n gosod eu nod ar ffurflen bleidleisio sy'n penderfynu canlyniad etholiad, ond yn hytrach y rhai sy'n cyfri'r marciau hynny.

Tuesday, March 17, 2009

Hawl a Braint

Am 5 o'r gloch ar 23 Mawrth, fe fydd pleidlais bwysig iawn yn Senedd Ewrop.

Fe fydd y MEPsau yn penderfynu a fydd y syniad dadleuol iawn i ymestyn hawlfraint i recordiadau sain o 50 i 95 mlynedd yn cael ei wireddu.

Efallai nad yw'n hysbys i bawb, ond mae hawlfraint ar ddeunydd clyweledol yn cyfyngu yn ddirfawr iawn yr hyn y gall archifau wneud gyda deunydd o'r fath. Gyda mathau eraill o ddeunydd, gall llyfrgelloedd ac archifau wneud tipyn i'w diogelu a'u rhoi ar gael yn gyhoeddus. ond gyda deunydd clyweledol, does dim "delio'n deg". Mae hyn oherwydd pwysau enfawr cwmniau mawrion ar y llywodraeth i warchod eu monopoliau.

Mae archifau (fel arfer, archifau tlawd) y wlad yn ceisio eu gorau i ddiogelu deunyddiau, ac yn mynd i drafferth a chost i geisio sicrhau bod y deunydd clyweledol ar gael i'w ddefnyddio gan bobl y wlad.

Yn aml iawn, yr archifau sy'n gyfrifol bod y deunydd yn goroesi o gwbl, yn gwarchod y pethau, yn eu diogelu, ac yn tynnu sylw at yr etifeddiaeth. Ond pan ddaw i'r crynsh, a bod archif eisiau defnyddio rhywbeth o'u casgliad, os yw'r hawlfraint gan un o'r cwmniau mawr, rhaid talu, a weithiau talu'n ddrud, am gael defnyddio'r eitem. A hyn er nad yw deiliad yr "hawl" â dim diddordeb ddeallusol yn yr eitem, a hwythau heb wario dimau goch i wneud yn siwr bod yr eitem yn goroesi. Mae beth sydd ar gael i'w weld, ei ddigido ac yn y blaen, felly'n cael ei gyfyngu i'r hyn sy'n fforddiadwy, a/neu'n syml. Mae cannoedd o filoedd o eitemau mewn archifau na fydd yn gweld golau dydd, oherwydd eu bod yn "broblematig" o ran hawlfraint. Ond fydd rhai o'r cwmniau mawr sydd berchen yr "hawliau" byth yn gweud defnydd ohonynt chwaith. Yn aml does ganddynt ddim copi o'r deunydd eu hunain! Comoditi ydi hawlfraint iddynt, rhywbeth i'w brynu a'i werthu.

A nawr, i wneud materion yn saith gwaeth i archifau, mae'r UE yn bwriadu ymestyn hawlfraint ar recordiau, heb un dim o gwbl i roi'r hawl i'r archifau sy'n edrych ar ôl y recordiau i wneud dim gyda hwy. Mae'r peth yn warthus, a phe bai trigolion y wlad yn syddweddoli faint mae "hawlfraint" yn eu gostio iddyn nhw, bob un wan jack sy'n talu eu trethi, fe fyddent yn arswydo.

Monday, March 09, 2009

Song of Gratitude
Sung by the Children at the Wrexham Union
Workhouse Concert
WEDNESDAY, JANUARY 16th, 1867

God bless our benefactors,
With hearts so good and true:
So full of sympathy to prompt
Their noble deeds to do,
Let others in their singing
Boast of their ancient Knight,
We sing - our Benefactors -
With hearty glee and might.

Chorus - God bless our Benefactors,
So good to give and guide;
God bless the Royal Family,
The nation's hope and pride.

God bless our Benefactors,
For this our Christmas cheer:
May blessings rest on them and theirs
Throughout the opening year.
Freely they have given
Both of their time and wealth,
And for their kindness shown to us,
Wish them long life and health.
Chorus - God bless &c

We thank our watchful Guardians
For their bounteous fare:
May Providence upon them smile
And keep them in His care.
Our Chaplain, also, may he live
Long in the hearts of all,
For his unbounded acts of love
To his poor flock who call

Chorus - God bless &c

God bless our kindly Master,
Likewise the Matron too:
So wise to rule, so kind to bear,
With faults we often do.
Now, while we are singing,
Our thanks to all we give
Who smile on lowly children -
Long may they happy live.

Chorus - God bless &c

Friday, March 06, 2009


IMG_1358
Originally uploaded by Dogfael
Oedd, roedd hi'n werth aros i glywed Aled Lloyd Davies a Llio Penri yn rhannu llwyfan y Drwm neithiwr. Does dim amheuaeth bod Dr Davies yn athrylith. Noson hyfryd, safonol a ffraeth, wedi'i threfnu gan yr Archif Sgrin a Sain.

Wednesday, March 04, 2009



Digwyddiadau lleol

Monday, March 02, 2009


Size Matters

Brandio newydd Maes Awyr Caerdydd

Mae angen sbectol i weld y Gymraeg.

.

Sunday, March 01, 2009

Ystrydebau

Er cof annwyl am Gân i Gymru, a hunodd yn swnllyd ar y 1 Fawrth, 2009.

Un peth dwi'n gwybod yw, bydd fy enaid gyda ti, ar adennydd, yn hedfan i ffwrdd. Gafael yn fy llaw, a chyn i'r haul fynd i lawr, daw diwedd i'n gofidiau.

Diolch fyth am Gi Ceffyl.
.

Friday, February 27, 2009




Aled Lloyd Davies


Noson hyfryd (gobeithio) gan AGSSC yn Drwm, Llyfrgell Genedlaethol, noson 5 Mawrth.


Dewch i ddathlu cyhoeddi ei hunangofiant, ac i wrando ar Dr Aled Lloyd Davies yn rhannu ei brofiadau cerddorol, yng nghwmni Llio Penri a'i thelyn.

.

Wednesday, February 25, 2009

Dont &#8217 fyga blwc yn hidlo acha 'r treadmill

Ewch i'r safle hwn - munfitnessblog.com

Ewch i lawr y dudalen a dewis "cyfieithu" a clicio ar y ddraig fach goch.

MunUffar
.

Wednesday, February 18, 2009

John Aelod Jones

Llais cenedl. Noson deyrnged i John Roberts Williams


Nos Iau, 19 Chwefror, Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 7.30. Noson i dalu teyrnged i John Roberts Williams, cyfaill mawr i Gymru, ac arloeswr ym myd y wasg Gymraeg, ffilmiau Cymraeg, Radio Cymraeg, a theledu Cymraeg.

Yn argoeli i fod yn noson ddifyr a ffraeth yng nghwmni Wil Aaron, Dyfed Evans, R Alun Evans, Gwenno Ffrancon.

Dewch yn llu da chi i gofio am ddyn mor arloesol.

.

Tuesday, February 10, 2009

Rafflo'r iaith

Y Raffl Fawr Scymraeg

Does dim i'w ddweud, nagoes?

.

Tuesday, February 03, 2009

Eira mân


Abereira
Tra bod gerwyntoedd oer y gaeaf ariannol yn sgubo'r wlad, fe ddaeth rhewynt go iawn i Aber heddiw.
Tynnwyd y llun uchod o risiau'r Llyfrgell Genedlaethol, eiliadau wedi i storm o eira ysgubo dros y dref, â heulwen braf yn erlid y cymylau duon i gyfeiriad y môr.

Gobeithio bod hyn yn arwydd, a bydd ein gwleidyddion yn gweld y goleuni, ac y bydd y storm gyllidol sydd yn bygwth ysgwyd y gadarnle Gymraeg honno i'w seiliau yn chwythu'i phlwc yn fuan.

cennin pedr
....

.

Saturday, January 31, 2009


Diwedd y Byd

I aelodau'r sect Dyddiol, roedd heddiw'n ddiwrnod o dragwyddol bwys. Yn ôl y darogan, heddiw, am hanner dydd, mewn ffrwydriad o rym atomig, fe fyddai'r byd yn dod i ben. Efallai.

Ymgasglodd ffyddloniaid dyddiolaidd ynghyd mewn ogof yn Aberystwyth, i weld yr haul yn ymachlud ar eu ffydd. Arweiniwyd hwy gan yr un enwog â chysylltiadau Rwsiaidd (gweler hwn).

Ond wele, wedi peth llafarganu a rhagor o ddarogan, fe basiodd yr hanner dydd, ac er siom fawr siwr o fod i'r gohebydd unig o'r Beeb B.C. oedd wedi aros y tu allan i'r ogof ar gyfer y datguddiad, ni chafwyd diffyg ar yr haul, ni syrthiodd waliau'r Morlan, ac ni ddaeth y Byd i ben.

Ond y cwestiwn oedd yn sibrwd ar y gwynt, wrth i'r ffyddloniaid gamu i lygaid goleuni drwy ddrws yr ogof, oedd nid a fyddent yn codi ar y trydydd dydd, ond yn hytrach ble yn y byd y mae'r wledd gwerth dau gan mil darn arian a gafodd Golwg? Achos te chwech mae'r Cyngor Llyfrau wedi'i gael am ei niwcs dros y naw mis diwethaf.

Monday, January 19, 2009


Bywyd Gwerin

Y flwyddyn hon fe fydd dros filiwn o bobl yn ymweld â Gwyl Werin y Smithsonian yn Washington DC. Ac fe fydd y miliwn, neu filiwn a hanner hynny yn cael blas ar Gymru, gan mai'n gwlad fach ni sy'n cael ei chynrychioli ar y Mall eleni.

Mae sefydliad y Smithsonian (sy'n cynnwys prif amgueddfeydd UDA) yn anferth, ar sawl safle, ac yn werth ei weld. Ond ar "y Mall" sef stribyn o dir agored - dan ofal y parciau cenedlaethol- rhwng cofeb Lincoln a'r Capitol y cynhelir yr wyl werin.

Fe fydd nifer o gerddorion gwerin o Gymru'n cymryd rhan, ac fe ryddheir recordiau newydd o ganu gwerin Cymreig ar label sydd nawr dan ofal yr amgueddfa, sef Folkways. Rwy'n lled gredu mai dim ond un recordiad Cymraeg sydd hyd yn hyn ar label Folkways, sef caneuon gwerin gan Meredydd Evans.

Byddwch yn barod i gael eich blitsio o ddechrau'r haf gan hanes y Cymry yn America, am y sylw anhygoel y bydd "ein diwylliant" yn ei gael ym mhrifddinas y wlad mwya pwerus yn y byd, ac am sawl rhyfeddod a ddatgelir yn ystod pythefnos yr Wyl.

.