geiriau gwirion am hyn a'r llall

Saturday, January 31, 2009


Diwedd y Byd

I aelodau'r sect Dyddiol, roedd heddiw'n ddiwrnod o dragwyddol bwys. Yn ôl y darogan, heddiw, am hanner dydd, mewn ffrwydriad o rym atomig, fe fyddai'r byd yn dod i ben. Efallai.

Ymgasglodd ffyddloniaid dyddiolaidd ynghyd mewn ogof yn Aberystwyth, i weld yr haul yn ymachlud ar eu ffydd. Arweiniwyd hwy gan yr un enwog â chysylltiadau Rwsiaidd (gweler hwn).

Ond wele, wedi peth llafarganu a rhagor o ddarogan, fe basiodd yr hanner dydd, ac er siom fawr siwr o fod i'r gohebydd unig o'r Beeb B.C. oedd wedi aros y tu allan i'r ogof ar gyfer y datguddiad, ni chafwyd diffyg ar yr haul, ni syrthiodd waliau'r Morlan, ac ni ddaeth y Byd i ben.

Ond y cwestiwn oedd yn sibrwd ar y gwynt, wrth i'r ffyddloniaid gamu i lygaid goleuni drwy ddrws yr ogof, oedd nid a fyddent yn codi ar y trydydd dydd, ond yn hytrach ble yn y byd y mae'r wledd gwerth dau gan mil darn arian a gafodd Golwg? Achos te chwech mae'r Cyngor Llyfrau wedi'i gael am ei niwcs dros y naw mis diwethaf.

Monday, January 19, 2009


Bywyd Gwerin

Y flwyddyn hon fe fydd dros filiwn o bobl yn ymweld â Gwyl Werin y Smithsonian yn Washington DC. Ac fe fydd y miliwn, neu filiwn a hanner hynny yn cael blas ar Gymru, gan mai'n gwlad fach ni sy'n cael ei chynrychioli ar y Mall eleni.

Mae sefydliad y Smithsonian (sy'n cynnwys prif amgueddfeydd UDA) yn anferth, ar sawl safle, ac yn werth ei weld. Ond ar "y Mall" sef stribyn o dir agored - dan ofal y parciau cenedlaethol- rhwng cofeb Lincoln a'r Capitol y cynhelir yr wyl werin.

Fe fydd nifer o gerddorion gwerin o Gymru'n cymryd rhan, ac fe ryddheir recordiau newydd o ganu gwerin Cymreig ar label sydd nawr dan ofal yr amgueddfa, sef Folkways. Rwy'n lled gredu mai dim ond un recordiad Cymraeg sydd hyd yn hyn ar label Folkways, sef caneuon gwerin gan Meredydd Evans.

Byddwch yn barod i gael eich blitsio o ddechrau'r haf gan hanes y Cymry yn America, am y sylw anhygoel y bydd "ein diwylliant" yn ei gael ym mhrifddinas y wlad mwya pwerus yn y byd, ac am sawl rhyfeddod a ddatgelir yn ystod pythefnos yr Wyl.

.