geiriau gwirion am hyn a'r llall

Tuesday, September 09, 2008

Diawlfraint

Dim llith.

Diolch i mbh am fy arwain at hwn ar youtube.

Fel ceidwaid hawlfreintiau, fe ddylwn fod ar fy nghef mewn ffit biws. Ond, diawl, mae'n ddoniol.

Saturday, September 06, 2008

Di-l'n

Newydd wylio'r ffilm hyfryd The Edge of Love (imdb). Mae'r ffilm yn cloi gyda digwyddiad hynod ym mywyd Dylan Thomas. Rhyfedd a braf oedd clywed cymeriadau'r ffilm yn defnyddio'r ynganiad Cymraeg o enw'r bardd, gan mai'r ffurf eingl-americanaidd "Di-l'n" a glywir fel arfer.

Mae'r stori wedi'i seilio ar un o lyfrau David Thomas, dyn sydd wedi treulio blynyddoedd yn ymchwilio i fywyd Dylan Thomas, ac wedi cynhyrchu corff o waith hynod ddifyr.

Ymhlith ei gyhoeddiadau mae dwy gyfrol o "Dylan Remembered". Seiliwyd y llyfrau hyn ar dapiau sain o gasgliad Colin Edwards, sydd yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

Ymhlith y tapiau hynny, y mae cyfweliad gyda mam Dylan, sy'n trafod ei blentyndod mewn ffordd hyfryd, gonest a ffraeth. Yn ystod y cyfweliad mae Colin Edwards yn ei holi am ynganiad yr enw - a'i Dylan ynteu Di-l'n ydoedd. Ac yn wir i chi, yr ynganiad Seisnig oedd yn cael ei arfer.

Felly, fe dybiaf, er mor driw i'r cyfnod y mae'r ffilm, ac er mor hyfryd yw clywed yr ynganiad Cymraeg ar y sgrin fawr - mae'r dystiolaeth lafar yn gwadu ei gywirdeb yn y cyd-destun hwn.

Damia archifau felly am gofnodi'r gwir, yn hytrach na'r hyn yr hoffem i'r gwir i fod.