geiriau gwirion am hyn a'r llall

Thursday, October 30, 2008


Rhwng yr Arth a'r Ddraig

Bron yr un adeg ag oedd Llywelyn ein Llyw Olaf yn bustachu yn yn erbyn Edward, roedd ymerodraeth fwya'r byd eisoes wedi'i sefydlu gan Genghis Khaan a'i olynwr. Roedd yr ymerodraeth Fongolaidd yn ymestyn o Wlad Pwyl, draw i Korea, i lawr o Siberia rynllyd yr holl ffordd i Oman chwilboeth.

Heddiw mae Mongolia, sy'n dal yn wlad anferth, yn sefyll rhwng Rwsia a Tsieina. Mae hanes y wlad yn ryfeddol, a'i sefyllfa heddiw yn hynod ddifyr (o ran gwleidyddiaeth, diwylliant, crefydd a ffordd o fyw). Mae ei phoblogaeth, sy'n llai nag un Cymru, yn byw ar 1.5 miliwn kilomedr sgwar o dir, gyda thua 30% o'r bobl yn byw bywyd nomadaidd. Allwch chi feddwl am rywle mwy gwahanol i Gymru, heblaw wyneb y lleuad?

Ond eto, mae rhai ffeithiau am y wlad yn canu cloch. Mae'r economi yn dibynnu ar amaethyddiaeth a mwyngloddio, mae'n datblygu ac yn dechrau dibynnu mwy ar dwristiaeth. Ac mae cwmniau technolegol o'r dwyrain pell wedi dechrau buddsoddi yn helaeth yn y wlad.

Wele eu safle twristiaeth.

Rhai blynyddoedd yn ol, roedd dyn ifanc acw yn y gwaith oedd yn treulio bob munud sbar yn darllen llyfrau oedd yn ei gynorthwyo i ddysgu iaith y wlad, sef Mongoleg. Roedd Emyr Pugh wedi gwirioni ar y wlad. Er fy mod yn ymwybodol o'i ddawn anhygoel efo ieithoedd, a'i natur unplyg, nid oeddwn yn ymwybodol o ddawn arall oedd ganddo, sef ei fod yn chwip o ffotograffydd da.

Nawr yn byw yn Mongolia, mae Emyr wedi dechrau postio lluniau dogfennol o'r wlad ar flickr. Mae nhw'n werth eu gweld, yn dryllio'r ddelwedd sydd gennym o wladwyr nomadig yn crwydro'r gwastatir efo'u Yaks a'u camelod.

Da chi, ewch am gip draw yma


...

Monday, October 13, 2008


Adroddiadau blynyddol




Fe dybiaf ei bod bellach yn amser deor adroddiadau gwahanol gyrff cyhoeddus. Fe fydd yn ddiddorol gweld pa ddelweddau y bydd rhai o'r cyrff yn y maes diwylliant a ballu yn eu defnyddio y flwyddyn hon. Fe aeth hi'n ffasiwn cynnwys yn yr adroddiadau diflas hyn, lluniau lu, sycophantig, o'r "Gweinidog", yn cyflawni pob math o wrhydi, megis reidio beic, cyflwyno gwobrau, smalio edrych yn ddwys ar sgriniau cyfrifiadur, gwrando yn astud ar rhywun yn disgrifio sut i gatalogio llyfr ac ati.

Ond eleni, pa weinidog i'w anfarwoli? Ys gwn i faint o luniau o RhGT a welir. A fydd ei wep yn ymddangos i hysbysebu llwyddiant y gwobrau llyfrau, e.e.? Neu a fyddai hyn yn beryg o ddychryn y plant?

Efallai y dyla'r cyrff hyn sydd mewn cyfyng gyngor PRaidd ystyried dilyn yr Americanwyr, Sofietiaid a'r Tsieiniaid a "doctro" y lluniau.

Fe fydd y linc hwn yn siwr o gynnig ysbrydoliaeth!

Sunday, October 12, 2008


Taliban Aberhosan

Rhai blynyddoedd yn ôl, fe dynnais lun o gofeb lechen Wynford Vaughan Thomas, ger Aberhosan. Dyn reit fach oedd WVT, os dw i'n cofio, yn grwn braidd, ac yn ymdebygu i Bwda bach pan oedd yn ymollwng i gadair freichiau. Un o Abertawe ydoedd, a oroesodd ddau ryfel byd, ac a fu yn uffernlefydd y ddaear adeg yr ail ryfel byd, ar ran y BBC - gan gynnwys cyflwyno'r adroddiadau cyntaf o Belesen. Aeth ymlaen i fod yn un o sefydlwyr Teledu Harlech, ac roedd ei gyfres ddadleuol ar hanes Cymru, "the Dragon has Two Tongues" efo Gwyn Alf Williams yn uchafbwynt darlledu i'r 80au.

Roedd WVT yn chwyrn o blaid hanes a threftadaeth Cymru, ac roedd yn flaenllaw iawn yn yr ymgyrch i ddiogelu y Gymru wledig, a chynnig mynediad i'r werin bobl at harddwch gwyllt eu hetifeddiaeth dirluniol.

Roedd llawer iawn o grafiadau ar wyneb y gofeb, y rhan fwya ohonynt gan ymwelwyr estron. Efallai nad oeddynt cynddrwg a'r graffiti adawyd gan filwyr yr UN yng ngorllewin y Sahara, ond pwy ddiawl oedd y Toms y Dicks a'r Harrys yn meddwl oeddan nhw yn sgriffinio ein cofeb ni, sydd yno i dynnu sylw at harddwch a hanes ein tirlun, ac i roi enwau Cymraeg ar y bryniau a'r copaon?

Erbyn heddiw, mae'r cyngor sir eisiau adfer y gofeb, ac roeddwn yn methu peidio stopio wrth yrru heibio, er mwyn gweld beth oedd hyd a lled y ddinistr graffitaidd erbyn hyn.

Mae Dick a Harry yn siwr o fod yno yn rhywle, ond bod blynyddoedd o law a gwynt wedi chwipio'i edau main o 'sgrifen i ebergofiant, ond mae rhyw Tom 2004 wedi goroesi yn rhyfeddol ar dalcen yr hen Wynff. Ond gwae, nid ymosodiad estron yn unig sydd yma bellach. Mae'r Cymry wedi troi ar Wynff, gan ei gyhuddo o fod yn gwdyn taeog. Wel, efallai ei fod, os ydi rhywun yn edrych arno efo un llygad ddall a gwrando arno efo chlust hollol fyddar.

Ochr isaf y wal lechi sy'n cario pwysau'r gofeb mae'r geiriau "Kick the English Out", wedi'i baentio yn amlwg, mewn rhyw hen liw gwyn hiliol.

Ys gwn i pwy yw'r Taliban Cymreig hyn sy'n difethau arwyddion o'u hanes eu hunain, oherwydd nad yw'n plesio eu dehongliad cyfoes hwy?

Dinistried y bwda Cymreig!

...