geiriau gwirion am hyn a'r llall

Tuesday, August 12, 2008

Peidiwch gwylltio

ond mae treuliau cynnal ail-gartrefi ein harwyr cenedlaethol a lleol, yr amhrisiadwy aelodau etholedig o'r Cynulliad Cenedlaethol, ar gael i bawb i'w gweld.

Roedd pori trwy'r rhestr, sy'n cynnwys popeth o soffas moethus, frijis, ambell i deledu arbennig o ddrud, i lawr i top-ups ffônau symudol a rheliau dal lenni, yn teimlo braidd yn chwithig. Fel tasa rhywun wedi agor drws y sychwr dillad anghywir mewn golchfa, a ffendio'i hun yn ymbalfalu drwy trons a nicyrs y teulu drws nesa trwy gamgymeriad.

I arbed i chi orfod chwilio yn rhy galed dyma'r linc i'r wybodaeth.

Monday, August 11, 2008


Slag


Pam oeddwn yn fach iawn (tydw i ddim yn dal iawn nawr, erbyn meddwl), roeddwn wrth fy modd yn gwrando ar feibion y tir yn trafod dulliau ffermio.

Roedd rhyfeddodau i'w clywed, a thermau dirgel, megis "hau giwana" neu "hau basislag".

Siom fawr, ychydig yn ddiweddarch yn fy mywyd, oedd darganfod mai pelets nitrogen oedd "giwana", dim hyd yn oed baw adar (guano) wedi'i gludo'n ofalus draw dros y moroedd mawr. A wedyn deall mai stwff erchyll llwyd, drewllyd oedd "basislag" - "basic slag", yn llawn calch a phosffad o'r broses cynhyrchu dur.

Drylliwyd rhamant yr enwau, ac fe gollwyd mymryn o hyder a ffydd yn y werin datws. Pa mor anaturiol oedd taenu caeau efo carthion gwaith dur, neu hau lympiau gwyn a ddaw o olew, dros ein porfeydd gwelltog? Ac yn waeth na hynny, defnyddio geiriau twp, bastardiedig i ddisgriffio'r gwaith?

A phan ddryllir rhamant ac ymddiriedaeth, mae'n naturiol i chwerwder yrru rhywun i wneud pethau y bydd, efallai, yn difaru yn y pendraw.

Ys gwn i, o ystyried y siom a gafwyd mewn slag, pa hanes o frad neu ddicter a yrrodd rhywun arall i sefyll ar ganol y lôn bost brysur i ddatgan hyn?

Saturday, August 09, 2008


Finger Lickin Crook

Gan fod y wraig acw yn cynnal rhyw fath o seance i rai efo ffetish traed yn y gegin, fe benderfynais encilio i'r lolfa i bori trwy fy ystadegau flickr. Well gen i ffidlan efo fy nhraed rhithiol nac eistedd mewn cylch efo fy modiau bach go iawn mewn powlen o hylif lliwgar, wedi'i gysylltu i'r mains trydan, diolch yn fawr, ferched.

A difyr oedd gweld bod rhes o linciau o sawl gwefan yn yr Amerig wedi cyfeirio dros nos at un o fy lluniau. Ond pam? Wel, pam fy llun i , wn i ddim. Mae rhyw foi yn yr Unol Daleithiau wedi swapio ei "fywyd" am "dedfryd oes" o gyw iâr KFC.
Wele y stori yma.

Ond pam fy llun i? Wel dyma fy theori i, sef bod y llun o faner y cwmni yn adlewyrchiad o'u logo (felly o chwith) ac yn cyflwyno argraff, yn hytrach na chynnig copi go iawn o symbol y cwmni. Efallai bod hyn yn osgoi achos llys neu rywbeth tebyg am "gam ddefnyddio" eiddo'r cwmni, a'u cysylltu efo y math o gwsmer sy'n llofruddio?

Pwy a wyr. Nid myfi.

Ond hawdd rhoi ei droed ynddi, yntydi