geiriau gwirion am hyn a'r llall

Thursday, December 11, 2008


Hohoho

Nadolig llawen i bwy?


Clywed heddiw bod cwsmeriaid Woolies wedi bod yn gas iawn efo rai o'r staff yn y siop yn Aberystwyth, oherwydd nad oedd popeth yn y sél yn 50%.

Oedd, roedd y posteri yn gamarweiniol, ond doedden nhw ddim yn dweud celwydd - roedd y 50% yn anferth a'r "up to" yn fach iawn, ond, hei, felly mae hi ym mhobman.

Ond druan o'r staff, a hwythau ar drothwy colli bywoliaeth, yn gorfod wyneb camdriniaeth yn lle cydymdeimlad.

.

Wednesday, December 10, 2008


Cyfarth

Mae "gosod" celf fodern mewn sefyllfa ddiarth bob amser yn dipyn o risg.

Mae Angel y Gogledd yn un o'r esiamplau gorau erioed o osod darn o gelf mewn tirlun; felly hefyd y coed a lapiwyd yn lliwgar o gwmpas y lle (gan gynnwys mewn mannau yng Nghymru). Mae'r Angel, wrth gwrs yn ddarn o gelf sy'n berthnasol i'w ardal, yn deyrnged i'r dyn cyffredin ac i'r gwaith caled, diwydiannol yr oedd yn ei gyflawni.

Wn i ddim beth i feddwl am y syniad o'r peli gloyw swnllyd ar y Teifi. Gŵr o Fecsico fydd yn creu'r gwaith celf

Mae cwyno lleol wedi bod am y cynllun. Dim byd i wneud ag Aberteifi. Be mae dyn o Fecsico yn gwybod am y lle. Difetha'r amgylchedd. Dychryn y pysgod. Acynyblaenacynyblaen.

Mae gen i gydymdeimlad efo'r rhai sydd yn erbyn. Tydw i ddim yn ffan o gelf modern. Ond pan es i i Balas Versailles yn ddiweddar, a chlywed bod y lle yn llawn o waith Jeff Koons, meddyliais "o diar" dyna briodas anghymarus, siwdaidd. Ond wir, fe gefais siom o'r ochr orau. Roedd yr effaith "anghymarus" gwrth-gyferbyniol, dim byd i wneud-a'r-lle, yn troi allan i fod yn hollol wych.

Mae ychydig o luniau o'r lle gen i yn y fan hyn.

Felly, os ydych chi'n un o'r protestwyr gwrth-beli-ar-y-teifi, beth am oedi am ennyd, ac ystyried pethau fymryn yn ehangach. Efallai y byddwch yn dod i'r un casgliadau, ond o leiaf meddyliwch a thrafodwch y mater yn ddeallus. Y cyfan a glywais gennych hyd yn hyn yw rhywbeth tebyg i'r hyn a ddisgwylir gan y Daily Mail, a hynny mewn cyd-destun plwyfol iawn. Ac mae'n ddrwg gen i ddweud, ond mae adroddiadau BBC Cymru wedi bod yn porthi'r anwybodus a troi'u llwy bren yn y cawl (wel, sianel 4 sydd tu ôl i'r cynllun, ynte).

Tydw i ddim yn poeni tamaid os yw'r peli yn cyrraedd yr afon neu beidio, ond mi rydw i'n poeni bod y dadleuon a glywyd yn eu herbyn mor affwysol o gyfyng a, wel, does dim ffordd o ddweud hyn yn neis; yn dangos twpdra. "Ignorant and proud of it".

Dewch 'o 'na drigolion ardal y Teifi. Rydych yn well na hyn.