geiriau gwirion am hyn a'r llall

Friday, July 18, 2008

Tanio'r Blaid

Ys gwn i a fyddai RhGT wedi gorfod mynd petai wedi bod yn smocio roli yn hytrach na sigar fawr dew ar riniog yr Eli Jenkins?

Er bod Clinton wedi goroesi ei funud o wallgofrwydd sigaraidd, yn ein byd ol-sosial-bleidaidd ni, mae symbolau o doffdra yn amlwg yn mynd i creu cenfigen. Dangosodd RhGT nad oedd wir yn un o'r hogia go iawn. Fe fyddai'n arwr y werin tasa fo wedi cadw at Woodbines neu Old Holburn, yn hytrach na danglan ei Behike yn gyhoeddus.

Efallai y bydd y gweinidog-cyn-weinidog i'w weld nesaf ar y cylchdaith darlithio, yn ennill ffortiwn yn y Gelli am draethu am sut yr arbedodd ddynoliaeth a'r diwylliant Cymraeg efo Chitty Chitty Bang Bang, Circus Oz a'r Stephen Petronio Company yng Nghanolfan y Mileniwm, heb sôn am iechyd y wlad efo gardd lysiau yr Ardd Fotaneg.

Ond does dim eisiau poeni, gall fod pethau'n waeth. Dyw hi ddim yn ddiwedd Y Byd, nagydi?

Beth fyddai gan y gweinidog arall, yr Eli Jenkins go iawn, i ddweud am hyn oll, tybed? Buggerall, siwr o fod.
Iachau

Er nad wyf wedi bod yn teimlo cant y cant yn ddiweddar, efallai nad oes fawr o bwrpas, wedi'r cyfan chwilio am iachad trwy ffydd. Yn ôl y si, dim ond tri aelod o Bwyllgor y Weinidogaeth Iachau a lwyddodd i fynd i'r cyfarfod blynyddol diwethaf. Roedd y gweddill, wel, yn sâl. Henaint ni ddaw ei hunan i'r Hen Gorff, mae'n amlwg.