geiriau gwirion am hyn a'r llall

Monday, January 19, 2009


Bywyd Gwerin

Y flwyddyn hon fe fydd dros filiwn o bobl yn ymweld â Gwyl Werin y Smithsonian yn Washington DC. Ac fe fydd y miliwn, neu filiwn a hanner hynny yn cael blas ar Gymru, gan mai'n gwlad fach ni sy'n cael ei chynrychioli ar y Mall eleni.

Mae sefydliad y Smithsonian (sy'n cynnwys prif amgueddfeydd UDA) yn anferth, ar sawl safle, ac yn werth ei weld. Ond ar "y Mall" sef stribyn o dir agored - dan ofal y parciau cenedlaethol- rhwng cofeb Lincoln a'r Capitol y cynhelir yr wyl werin.

Fe fydd nifer o gerddorion gwerin o Gymru'n cymryd rhan, ac fe ryddheir recordiau newydd o ganu gwerin Cymreig ar label sydd nawr dan ofal yr amgueddfa, sef Folkways. Rwy'n lled gredu mai dim ond un recordiad Cymraeg sydd hyd yn hyn ar label Folkways, sef caneuon gwerin gan Meredydd Evans.

Byddwch yn barod i gael eich blitsio o ddechrau'r haf gan hanes y Cymry yn America, am y sylw anhygoel y bydd "ein diwylliant" yn ei gael ym mhrifddinas y wlad mwya pwerus yn y byd, ac am sawl rhyfeddod a ddatgelir yn ystod pythefnos yr Wyl.

.

No comments: