geiriau gwirion am hyn a'r llall

Friday, June 22, 2007

Gwyliau

Rwyf newydd fod ar wyliau braf iawn, gan ddisgwyl dychwelyd i Gymru ôl-chwyldro lliwgar (o leiaf yng nghyd-destun gwleidyddiaeth). Ond och a gwae, dal i droi yn ei unfan y mae'r melin wynt-poeth yn y Bae.

Pwy feddylia y byddem ar drothwy anrheuliedig haul Gorffennaf heb oleuni'n cyrraedd coridorau grym, a'r gwleidyddion yn ymbalfalu fel y dall am y mur.

Ond o leiaf rwyf innau wedi cael gwyliau di-ffws, sy'n fwy na'r hyn y mae'r pundits proffesiynol wedi'i gael, mae'n siwr, wrth ddisgwyl i'r gwynt droi a'r haul godi.

Brysiwch wir, mae'r diwrnod hiraf eisoes wedi bod.