geiriau gwirion am hyn a'r llall

Friday, August 06, 2010


Best Archives on the Net

The Best Archives on the Net awards - re-purposing descriptive data.

The Smithsonian example sounds very interesting and useful. So much for one-size-fits-all collections management solutions.

Wednesday, March 03, 2010

pethe'r Archif


pethe'r Archif
Originally uploaded by traed mawr
Criw cynhyrchu rhaglen newydd "diwylliant" S4C - pethe - yn recordio yn yr Archif Sgrin a Sain http://www.archif.com

Friday, February 26, 2010


Hwiangerdd dydd 13

Sion a Siân

Sion a Sian, oddeutu'r tan,
Yn bwyta blawd ac eisin man

Sunday, February 14, 2010


Hwianderdd y dydd 12

Gyrru i Gaer

Gyrru, gyrru, gyrru i Gaer;
I briodi merch y maer;
Gyrru, gyrru, gyrru adre,
Wedi priodi ers diwrnodie
.

Saturday, February 13, 2010


Hwiangerdd y dydd 11

Sgwrs


"Wel," meddai Wil wrth y wal,
Wedodd y wal ddim wrth Wil.


.

Friday, February 12, 2010


Hwiangerdd y dydd 10

I'r Ysgol

Mi af i'r ysgol fory,
A'm llyfyr yn fy llaw;
Heibio'r Castell Newydd,
A'r cloc yn taro naw;
Dacw mam yn dyfod,
Ar ben y gamfa wen,
"A rhywbeth yn ei barclod,
A phiser ar ei phen.
Mi af i'r ysgol fory,
A'm llyfyr yn fy llaw,
Heibio'r Sgubor Newydd,
A'r cloc yn taro naw;
O, Mari, Mari, codwch,
Mae heddyw'n fore mwyn,
Mae'r adar bach yn canu,
A'r gog ar frig y llwyn
.

Thursday, February 11, 2010


Hwiangerdd y dydd 9

Medde Bibyn wrth Bobyn

"A ddoi di i'r coed?" medde Bibyn wrth Bobyn,
"A ddoi di i'r coed?" medde Richard wrth Robin,
"A ddoi di i'r coed?" medde'r bachgen ei hun,
"A ddoi di i'r coed?" medde nhw bod yg un.
"Beth wnawn ni yno?" medde Bibyn wrth Bobyn,
"Beth wnawn ni yno?" medde Richard wrth Robin,
"Beth wnawn ni yno?" medde'r bachgen ei hun,
"Beth wnawn ni yno?" medde nhw bod yg un.
"Hela'r dryw bach," medde Bibyn wrth Bobyn,
"Hela'r dryw bach," medda Richard wrth Robin,
"Hela'r dryw bach," medde'r bachgen ei hun,
"Hela'r dryw bach," medde nhw bod yg un.
"Beth wnawn ni wedyn?" medde Bibyn wrth Bobyn,
"Beth wnawn ni wedyn?" medde Richard wrth Robin,
"Beth wnawn ni wedyn?" medde'r bachgen ei hun,
"Beth wnawn ni wedyn?" medda nhw bod yg un.
"Gwneyd potes a fo," medde Bibyn wrth Bobyn,
"Gwneyd potes a fo," medde Richard wrth Robin,
"Gwneyd potes a fo," medde'r bachgen ei hun;
A boddi mewn potes ddaru nhw, bod yn un
.


.

Wednesday, February 10, 2010


Hwiangerdd y dydd 8

Tarw corniog

Tarw corniog, torri cyrnau,
Heglau baglog, higlau byglau;
Higlau byglau, heglau baglog,
Torri cyrnau tarw corniog.

.

Hwiangerdd y dydd 7

Llong fy nghariad

Dacw long yn hwylio'n hwylus,
Heibio'r trwyn, ac at yr ynys;
Os fy nghariad i sydd ynddi,
Hwyliau sidan glas sydd arni


.

Monday, February 08, 2010


Hwiangerdd y dydd 6


Y Wylan

Y wylan fach adnebydd
Pan fo'n gyfnewid tywydd;
Hi hed yn deg, ar aden wen,
O'r mor i ben ymynydd.

Sunday, February 07, 2010


Hwiangerdd y dydd 5

Y Lleuad

Mae nhw'n dwedyd yn Llanrhaiad,
Mai rhyw deiliwr wnaeth y lleuad;
A'r rheswm am fod goleu drwyddo,
Ei fod heb orffen cael ei bwytho.



Thursday, February 04, 2010


Hwiangerdd y dydd 4

I'r Felin

Dau droed bach yn mynd i'r felin,
I gardota blawd ac eithin;
Dau droed bach yn dyfod adra,
Dan drofera, dan drofera
.

Wednesday, February 03, 2010


Hwiangerdd y dydd 3

Pwsi meri mew

Pwsi mew, pwsi mew,
Lle collaist ti dy flew?
"Wrth gario tan
I dy modryb Siân,
Yng nghanol eira a rhew."

Tuesday, February 02, 2010


Hwiangerdd y dydd 2

Si hei lwli

Si hei-li-lwli, 'r babi,
Mae'r llong yn mynd i ffwrdd;
Si hei-li-lwli, 'r babi,
Mae'r capten ar y bwrdd

Hwiangerdd y dydd

Yr Ebol Melyn

Mae gen i ebol melyn,
Yn codi'n bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
Mi neidia ac mi brancia
O dan y feinir wen,
Fe reda ugain milldir
Heb dynnu'r ffrwyn o'i ben

Monday, January 25, 2010


Dave Berry, Film Historian
1943 - 2010
We received very sad news on Friday afternoon of the death of Dave Berry, the doyen of Welsh film, who worked tirelessly as Research Officer for the former Wales Film and Television Archive, and later the National Screen and Sound Archive of Wales, until his retirement a few years ago.

Born in Bolton, his career as a journalist moved him to Cardiff, where he worked for may years for the South Wales Echo. He loved all aspects of film, especially the works of the silent era, and eventually left the Echo to write the masterpiece "Wales and Cinema: the first hundred years" which was published by the University of Wales Press (new ed 1996).

There are several tributes to Dave already posted on the web. I'm sure there will be many more over the coming days.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / AGSSC

Nat. Library of Wales / NSSAW
The Bioscope
Facebook
BBC
BBC Cymru
Wales 0n-line
Some flickr photos

Dave had the ability to be infuriating, lovable, erudite, endearing, stubborn, helpful, hindersome, meticulous in his research yet hopelessly vague in his adherence to corporate rules, all at the same time. It was a pleasure to know him; a privilege to have worked closely with him, and help him achieve some of his goals for Wales's screen heritage.

I extend my sympathies to all those, near and far, who are now grieving a great personal and professional loss.

Sunday, January 24, 2010

Sunday, January 17, 2010

Ynyslas


coch
Originally uploaded by traed mawr
Diwrnod braf yn Ynyslas

Tuesday, January 12, 2010

Bryste v Caerdydd yn Siberia

Diolch fyth am Sgorio ar S4C. Mae nhw'n haeddu medal am fentro i lawr o'r gogledd, trwy'r tywydd garw, i ddod a'r gem i ni, yn glyd o flaen y tân.

Saturday, January 02, 2010

Friday, January 01, 2010

Prom Aberystwyth


Prom Aberystwyth
Originally uploaded by traed mawr
Bore binary - ar y Prom yn Aber ar 010110