geiriau gwirion am hyn a'r llall

Thursday, May 31, 2007

Carwyn

Mae Blog V Roderick yn ddiddorol heddiw (mae wastad yn ddiddorol chwarae teg). Ond heddiw mae'n tynnu sylw at ddau beth sy'n goglais fy nhraed gwleidyddol.

Dau dwll yn y cabinet newydd. Pwy fydd yn eu llenwi? Ai PC?

Carwyn (sylwer nad oes angen defnyddio ei gyfenw) wedi cael addysg, diwylliant a'r iaith. Penodiad i blesio PC? Wel, mae'n benodiad sydd yn fy mhlesio i. Wedi blynyddoedd o AP, fe fyddai unrhyw un yn plesio.

Tuesday, May 29, 2007

Arendemol

Pan oeddwn yn meddwl bod y busnes teledu poblogaidd wedi cyrraedd y gwaelod, wele'r newyddion yma am un o raglenni Endemol (y cwmni sydd tu cefn BB).
The Big Donor Show

Saturday, May 26, 2007

Big Bruv - y Brawd Marw

Mae wedi dod i hyn ym myd ffug y brawd mawr.

Dim mwy i'w ddweud, nag oes?
Crysti'r Clown

Fe glywais Crysti yn siarad - neu'n hytrach yn mymblan ac ymio ac aaaa-io ar raglen newyddion neithiwr. Y perfformiad cyhoeddus gwaethaf a glywais erioed gan unrhyw weleidydd o Gymru. Os deallais yn iawn, rhwng yr yms a'r aaas, roedd hi'n ceisio cyfiawnhau pleidlais hunan-laddol y Dimlibs y dydd o'r blaen.

Heno dw i'n clywed bod y Dimlibs wedi codi pais, ond hynny ar ôl piso. Gobeithio y llwyddant i olchi eu dillad isa yn lanach na glân os ydyn nhw'n meddwl neidio i'r gwely am romp gyda'r pleidiau eraill. Achos, ar hyn o bryd mae nhw'n drewi.

Ac os mai ymgais i ddi-orseddu German oedd wir y tu cefn i'r bleidlais wreiddiol, pwy tybed sy'n rhoi uchelgais uwchlaw synnwyr cyffredin, heb sôn am synnwyr hanes?

Thursday, May 24, 2007

Dem Libs i Dim Libs

Pan oeddwn yn Siapan yn ddiweddar, fe gefais y fraint o wylio oriau lu o ffilmiau archif o'r wlad honno. Roedd rhyw fath o drais ym mron bod un o'r ffilmiau, gan gynnwys y rhai ar gyfer plant. Thema amlwg oedd hara-kiri. Fe fyddai y Samurai yn "disgyn ar ei gleddyf" rhag syrthio i rywle gwaeth - sef i ddwylo ei elyn. Fe fyddai "arglwydd" hefyd yn gallu gorchymyn ei filwyr i gyflawni hara-kiri - ac wrth gwrs fe fyddai milwyr yn cael gwneud hyn pe bae nhw'n teimlo eu bod wedi siomi eu harglwydd neu eu cyd-filwyr.

Wel, fe gyflawnodd y Dimlibs eu hara-kiri eu hunain ddoe, rhag syrthio i ddwylo'r gelyn glas, mae hynny'n sicr.

Y cwestiwn yw, pryd welwn ni fwy o waed ar y cledd, a gwaed pwy?
Chip and Bin

Newydd ddarllen yn y papur bod cynghorau lleol wedi bod yn prynu miloedd ar filoedd o finiau sbwriel gyda sglodyn ynddyn nhw - yn barod i godi tâl ychwanegol arnom am waredu sbwriel. Hyn ar gorn y pen-gopyn oedd yn ein rhybuddio am goblygiadau cael yr camerau CCTV ym mhobman.

Eironig iawn gyda chyfres Big Brother (opium for the masses) ar fin ail-ddechrau ar y bocs.

Wednesday, May 23, 2007

Golau tan gwmwl

Mae'n ymddangos nad yw Mr. German wedi llywio ei blaid tuag at y goleuni, ac mae'r glymblaid enfys wedi diflannu tan gwmwl cyn i IWJ ddarganfod y crochan aur.

Mae'r ddrama tylwyth teg yma'n dechrau fy niflasu, ac am unwaith rwy'n falch nad yw papurau Lloegr yn rhoi gronyn o sylw i'n actio gwleidyddol. Nid yw'n berfformiad caboledig iawn.

Tuesday, May 22, 2007

Remploy

Ers stalwm stalwm, pan oeddwn i'n cychwyn ar fy siwrne ym myd bach y gweithle, peth cyffredin iawn oedd gweld dodrefn Remploy o gwmpas y lle. Nhw hefyd oedd yn cael y gwaith o rwymo cylchgronau yn gyfrolau - cyn dyddiau cadw y fath bethau anhylaw mewn bocsus di-asid. Fe ddaeth tro ar fyd i Remploy, a phrin, yn oes y "gwerth gorau" y clywir enw'r cwmni, sy'n cynnig gwaith i bobl gydag anabledd. Tydi ystyriaethau cymdeithasol, neu o ble y daw'r cynnyrch, yn cyfri am ddim bellach. Rhaid cael y "gwerth gorau" o pob dimau goch o arian cyhoeddus. A does dim modd ffactora "gwerthoedd gwâr", megis cynnal cymunedau, cefnogi achosion da na dim oll tebyg i mewn i'r dewis.

Cefais gerydd gan aelod gweddol amlwg o'r Cynulliad unwaith (efallai y bydd yn fwy amlwg fyth yn reit fuan?) am ddefnyddio cwmni o Loegr i gyflenwi rhywbeth arbenigol iawn. Wel, nid fi oedd wedi gwneud, ond fi gafodd y bai! Doedd y boneddwr a dim syniad beth oedd goblygiadau ei bolisiau ei hun. Dw i ddim yn credu bod ganddo ar y pryd, syniad bod rheoliadau yn bod. Jest picio allan a phrynu'r gwasanaeth gan foi i lawr y lôn! Erbyn hyn mae system reit hwylus ar gael tros Gymru sy'n roi cyfle gwell i gwmniau gystadlu, ac fe annogir cyrff cyhoeddus i droi ato i brynu eu beiros etc.

Ond, mae'r rheoliadau (EU a lleol) o ran pwrcasu yn gallu bod yn eithriadol o gymhleth ac anodd, a tydyn nhw ddim yn ffafrio prynu lleol, neu brynu gydag un llygad ar werthoedd y tu hwnt i'r geiniog. Mae rheoliadau mor llym a chymleth, nes bod byddin o fiwrocratiaid wrthi yn ddyfal yn sicrhau bod pob bocs wedi'i dicio, a phob un ceiniog o'n trethi yn werth dwy.

A nawr mae Remploy yn cau eu ffatrioedd, ac am ganolbwyntio ar geisio ffendio gwaith "mainstream" i'w gweithwyr. Yr economi fyd eang, a rheoliadau gwerth gorau yn rhoi un ergyd arall, ac un poenus iawn i gynhyrchu yng Nghymru a thu hwnt.

Gwybod pris popeth a gwerth dim byd.

Monday, May 21, 2007

Edwardiaid lliwgar

Peidiwch colli'r cyfle i wylio'r rhaglen deledu anhygoel "Edwardians in Colour" ar BBC 4. Mae'n dilyn cynllun Albert Kahn, miliwnydd ar droad y ganrif ddiwethaf, i gofnodi pobloedd y byd. Ganddo ef y mae'r lluniau lliw (autochrome) cynharaf o sawl gwlad. Roedd ganddo hefyd gamera ffilm symudol.

Mae'r ffilmiau a'r ffotograffau a dynnwyd yn gwneud i ffilmiau Mitchell a Kenyon Electric Edwardians y bfi edrych fel chwarae plant.

Gwyliwch!
Coron ar y cyfan

Cyflwynir Coron yr Eisteddfod Gen. eleni gan yr Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol.

Lluniwyd y penwisg aur gan Mari Thomas o Lanelli, ac mae'n gampwaith addurniadol. Os brysiwch, fe allwch weld y goron (ynghyd â gemwaith ryfeddol sydd ar werth gan Mari) yn siop y Llyfrgell Genedlaethol. Gobeithio na fydd rhywun yn ei gwerthu trwy gamgymeriad.
Lluniau diflas

Fe ddefnyddiais wasanaeth gan
dopiaza i greu set yn flickr sy'n cynnwys fy lluniau mwyaf diflas, neu yn nhermonoleg PC y safle "lleiaf diddorol".

Rwy'n derbyn nad yw portread o fy mam-yng-nghyfraith at ddant pawb, nac efallai fy mrawd a'm chwaer-yng-nghyfraith, nac ychwaith fy mocs Sky+. Ond mae dopiaza yn greulon iawn wedi dympio llun o fy ngwraig annwyl yn y pwll boring, ac yn waeth na hynny, portread o ddyn gwallgo, nad yw'n annhebyg i Traed Mawr ei hun.

Gwarthus.

Sunday, May 20, 2007

Traed mewn cyfyngder

Fe ddaw y ffugenw Traed Mawr o'r enw anffodus a ddefnyddais fel hwyl (in-joke) wrth agor 'cownt flickr, sbel hir yn ôl.

Mae sôn bod rhai dynion sydd yn "challenged" mewn rhyw ffordd yn gwneud iawn am hynny trwy, dyweder, yrru car mawr, neu gar gyda bonet hir. Waeth i mi gyfaddef fy mod innau hefyd a gwendid "maint" ac rwyf yn yr is-ymwybod wedi ceisio cuddio hyn trwy greu i mi fy hun ffugenw ymffrostgar. Enw gwirion iawn felly yw Traed Mawr i rywun gyda thraed maint 6. Mae'n rhy hwyr ei newid, siawns, a rhywfodd mae yna bersona wahanol i mi, rhyw alter ego, yn bodoli ac yn cerdded yn dalog yn y rhithfyd, ac fe fyddai ei ddiarddel fel bradychu cyfaill.

Wyddoch chi pa mod anodd yw cael hyd i sgidie cyfforddus maint chwech i ddynion, hyd yn oed yng Nghymru - gwlad y bobl bychain? Anoddach fyth eu darganfod mewn sêl. Ar daith rhwng de a chanolbarth yr wythnos o'r blaen, fe arhosais am baned yn McArthur Glen, ger Penybont. Wele yno siop sgidie Clarks, gyda rhesi o sgidie maint 6, a rheini oll am bris gostyngol. Dewis o sgidie maint chwech. Rhyfeddol. Felly os ydych fel finnau a thraed maint plentyn, ond ddim am gerdded o gwmpas mewn Kickers, galwch heibio Glyn McArthur, ac fe allwch droedio fel dyn.

Ys dywed fy mam ers talwm, mae traed bach yn arwydd o "fridio da". Traed bach amdani felly, ond peidiwch sôn gair wrth fy Mrawd Mawr.
Seithlliw'r Enfys

Ar waelod yr ardd acw mae planhigyn Seithlliw'r Enfys, a oedd yn wreiddiol yn binc, ond sydd erbyn hyn yn tyfu blodau lliw glas tywyll. Arwydd o asid, ynteu alcali, nid wyf yn cofio, ond arwydd o ryw newid creiddiol, mae hynny'n siwr. Dros y blynyddoedd, mae'r lliw nid yn unig wedi newid, ond hefyd wedi dwysau, tra bod y planhigyn druan yn heneiddio ac yn edwino. Mewn llenyddiaeth o leiaf, mae natur weithiau'n darogan yr hyn fydd yn digwydd i ni feidrolion y ddaear, neu'n adlewyrchu cyflwr meddwl cymeriad mewn stori neu ddrama. Tybed beth felly y mae'r planhigyn truenus ar waelod yr ardd yn ei ddarogan ?

Ys gwn i pa newyddion a ddaw o'r Cynulliad yr wythnos nesaf? A fydd yna glymblaid enfys, clymblaid coch-ag-oren, neu coch-a-gwyrdd. Fe fyddai'n rhyfedd (ac annheg arnynt) os na fydd y cochion yn rhan o'r llywodraeth, ond dyna ni, yn tydi gwleidyddiaeth yn gem fudr.

Beth ddigwyddodd i'r wleidyddiaeth gonsensws yr oeddem yn ei ddisgwyl ers stalm?

Tynnwch at eich gilydd, wir ddynion a merched, does dim llawer o wahaniaeth rhyngddoch mewn gwirionedd! ;-)

Ond un peth sy'n sicr, mae'r planhigyn ar waelod yr ardd wedi darogan yn anghywir - siawns na fydd y Cynulliad wedi troi'n gyfangwbl las.