geiriau gwirion am hyn a'r llall

Monday, March 10, 2008

Crafu'r Gwaelod

Ar drothwy'r storm fwyaf ers, wel, y storm ddiwethaf, roedd gweithgaredd ryfeddol yn yr harbwr yn Aberystwyth. Roedd 2 JCB anferthol yn crafu'r gwaelod a llwytho'r cerrig mân a'r mwd i fflyd o loriau anferth, yna cludwyd y cyfan a'i wagio dros ymyl y Prom i'r traeth oddi tano.

Gyda'r llanw anhygoel heddiw, dw i'n cymryd bod y cyfan erbyn hyn yn ôl lle gychwynnodd - ar wely'r harbwr.
Nice work if you can get it.
http://www.flickr.com/photos/traedmawr/2320688363/

Friday, March 07, 2008

Deffro

Nid pawb sy'n deffro yn y bore i glywed cyhoeddiad ar newyddion y radio yn datgan nad ydyn nhw erioed wedi bodoli. Yn rhyfedd iawn, dyna ddigwyddodd i mi y bore 'ma.

Felly os nad ydw i yn bodoli, tydi yr hyn yr wyf yn ei ddweud ddim yn bodoli chwaith, nag ydi? Felly does dim ots beth dwi'n ei ddweud, nag oes?

Yn ôl y BBC a Phrifysgol Bangor, does neb erioed wedi casglu recordiau, cylchgronau ac ati y sîn "pop" yng Nghymru. Ond mae'r cam hwn yn mynd i gael ei unioni gan adran gerdd y colej ar y bryn. Da iawn nhw medde pawb.

Mae'r BBC bob amser yn gywir, a'u hymchwil treiddiol yn ddilychwyn. Felly mae'n rhaid mai nhw sy'n gywir, a wedi breuddwydio ydw i 'mod i wedi bod yn trefnu i gasglu'r stwff cerddorol hwn, ei ddiogelu a'i wneud ar gael i'r cyhoedd ers saith mlynedd ar hugain.

Ond os nad ydw i yma, fedra i ddim breuddwydio chwaith, heb sôn am sgwennu hwn. Ac os ydw i ddim wedi'i sgwennu, fedrwch chi ddim ei ddarllen.

Wel, dyna biti.