geiriau gwirion am hyn a'r llall

Monday, June 29, 2009























5 Diwrnod o ryddid

Mae America yn honni mae hi yw gwlad cyfleoedd, cydraddoldeb a rhyddid. Wel, cyfleoedd efallai, rhyddid, wn i ddim wir, cydraddoldeb, "no way".

Fe dyngais adeg dechrau rhyfel Irac, na fuaswn yn twllu gwlad "y rhydd" tra byddwn fyw, ond wedi'i Obama ddod yn Arlywydd, fe ddiddymais fy llw, a mynd draw i'r brifddinas am 5 diwrnod, i weld sut sioe oedd Cymru wedi llwyddo i'w chreu ar gyfer Gwyl Werin y Smithsonian.

Gyda'm llaw ar fy nghalon, a than y faner gyda'i ser yn disgleirio, gallaf ddweud yn ddiffuant, nad wyf wedi cael y fath hwyl ers blynyddoedd.

Er fy mod yno ar wyliau, ac i gefnogi rhan o'r wyl ymylol (Gwyl Ffilmiau o Gymru, os ydych eisiau gwybod), fe gefais fy llusgo i mewn i sawl gweithgaredd, a bu bob diwrnod yn llawn i'r brig o brofiadau newydd a bythgofiadwy. Yr unig flas cas oedd nad oedden ni, bobl yr ymylon, yn cael ein trin yn gyfartal a phawb arall, a hynny o bell ffordd. Ond dyna fel mae hi ar ffiniau pethau bod amser, ynte? Ta waeth, fel Cymry, rydym wedi hen arfer ag anghyfartaledd, felly doedd y teimlad o fod yn is-raddol ddim byd newydd.

Beth fyddaf yn ei gofio fwyaf o'r profiad?
1. Nad yw'r Americanwr cyffredin yn gwybod UNRYW BETH o gwbl, gwbl am Gymru. Mae rhaid dechrau pob sgwrs, a'i chynnal, gan gofio nad oes modd cymryd dim yn ganiataol.
2. Mae'r rhai sy'n gwybod mymryn am Gymru yn meddwl bod y diweddar Diana yn dod o'r wlad, a bod Charles yn byw mewn castell mawr yma.
3. Mae nhw'n hoffi holi am bopeth, ac eisiau dysgu amdanom, ond yn aml nid oes gan eu cwestiwn unrhyw beth o gwbl i wneud gyda'r pwnc dan sylw ar y pryd.
4. Nid yw'r Americanwyr wedi'u clymu i reolau iechyd a diogelwch a ballu. "jest get on with it".

ac yn bennaf oll
5. Fod yr Americanwyr yn llawn awydd i ddysgu ac i brofi pethau, ac i wybod mwy o lawer am wledydd eraill. Mae 'na gyfle yno, bois busnes, cyrff cyhoeddus etc. Deffrwch!

A'r olaf, ond nid y lleiaf

6. Bod Rhodri Morgan yn andros o foi, yn aruthrol o glyfar a gwybodus, yn rhyfeddol o rugl (o gofio'r hwyaid ungoes) ac yn haeddu can-mil mwy o glod adref nac y mae'n ei gael. "He's a hard act to follow" dywedodd rhywun. Mor wir. A phwy neith ei ddilyn?

A'r effaith fwyaf arnaf i, yn bersonol? Dileu rhywfaint ar fy hen siniciaeth, eironig un-llygeidiog, mewnblyg, dw i'n meddwl. Wel, nes daw y siom nesaf, siwr o fod!
A tydi 5 diwrnod o ryddid ddim hanner digon.

A gyda llaw, roedd y perfformwyr a'r crefftwyr oedd (a sydd yno am wythnos arall) yn gweithio yn anhygoel o galed, ac yn gwneud job hollol wych o ddehongli'n diwylliant i'r miliwn a mwy sy'n ymweld รข'r wyl.

Dyma ribdires o luniau o'r lle...

No comments: