geiriau gwirion am hyn a'r llall

Saturday, September 19, 2009


Ffydd gobaith a chariad

Ddoe, agorwyd Ystafell Ddarllen y Gogledd y LLyfrgell Genedlaethol ar ei newydd wedd.

Cafwyd cerdd gen Gillian Clarke, i'w chyfieithu rywbryd gan Menna Elfyn, yn disgrifio darllenwyr fel creyr glas, sbitsis gan y Llyfrgellydd, Llywydd y Llyfrgell a'r Gweinidog Diwylliant. Neis iawn.

Wele fe wawriodd hyfryd ddydd, ac mae'r lle wedi ail-agor.

Roedd dirfawr angen trwsio a diweddaru'r hen le, ac wedi hir ymaros, beth yw'r "verdict"? Hyd yn oed i sinic fel fi, dim ond dau air wneith y tro, sef "Hollol wych".

Mae agor y fath ystafell ar adeg pan mae llai a llai o bobl yn camu dros drothwy llyfrgelloedd yn dangos ffydd a hyder y sefydliad ei hun, a'r Cynulliad, yn nyfodol y lle. Felly hefyd y buddsoddiad mewn systemau rheoli cofnodion a digido. Fe fydd rhywun yn troi rown mewn 20 mlynedd a, gobeithio, yn dweud "diolch fyth bod y Llyfrgell wedi buddsoddi fel gwanaethon nhw ar droad y ganrif..."

Hwre. Ymlaen a ni. Ond nawr, ys gwn i a gawn ni ganolbwyntio ar warchod a datblygu'r casgliadau eu hunain? Y nhw yw'r rheswm dros yr adeilad ("y drysorfa"), dros fodolaeth y lle. Heb gasgliadau, heb ddim. Ac mae grant pwrcasu casgliadau'r Llyfrgell yn anghredadwy o fach. Mae'r casgliadau yn bethau i ymfalchio ynddyn nhw, mae nhw fel ffrindiau, fel cymdeithas, yn swyno fel cariadon. Wedi canrif o briodas rhwng yr adeilad a'i chynnwys, peidier a chymryd hanner pwysica'r briodas yn ganiataol.

No comments: