geiriau gwirion am hyn a'r llall

Thursday, November 06, 2008


Mae bywyd yn y Rhondda

Roedd noson etholiad arlywydd UDA yn sicr yn adeg emosiynol iawn. Fe ddefnyddiodd Mr Obama hanes Ann Nixon Cooper, 106 oed, i amlinellu daith hir ferched a phobl dduon y wlad, taith am gyfiawnder a oedd, gobeithio yn cyrraedd ei phen gyda'i ethol ef yn Arlywydd.

Mae siwrne ar hyd llwybrau hanes yn gallu bod yn ddiflas iawn, neu'n gyffrous ac emosiynol, yn dibynnu pa lwybr yn union sy'n cael ei ddewis. Does dim dwywaith bod dilyn hanes ar hyd lwybr y bobl gyffredin yn gallu arwain at daith emosiynol a chyffrous iawn.

Ar ddiwrnod yr etholiad, yng Nghanolfan Soar ym Mhen-y-graig, y Rhondda, fe aeth rhyw gant a hanner o drigolion yr ardal a nifer o blant Ysgol Gymraeg Llwyncelyn ar eu siwrne emosiynol eu hunain ar hyd llwybr o'r fath.

Roedden nhw yno i wylio, am y tro cyntaf, cyfres o storiau digidol am hanes pentref Dinas, trwy gyfrwng tystiolaeth ac atgofion y pentrefwyr. Mae storiau digidol yn gallu troi allan i fod yn dipyn o gawl tenau, ond wir roedd y pryd a gafwyd ym Mhen-y-graig yn hynod o faethlon, gyda digon o nionyn i roi blas - a thynnu deigryn i'r llygad!

Creuwyd y storiau fel rhan (olaf) o gynllun Rhondda Lives!, sef partneriaeth rhwng Valleys Kids, BBC Cymru ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, wedi'i ariannu gan y Loteri.

Yr hyn oedd yn gyffrous oedd bod nifer o'r rhai a gymerodd ran wedi'u tynnu ynghyd ar hyd y llwybr hanes hwn, llwybr oedd yn arwain pobl, hen ac ifanc iawn, yn ôl at ei gilydd. Oherwydd fe chwalwyd rhannau mawr o'r pentref gan y bulldozzers yn y chwedegau. Ond fel dywedodd un o'r trigolion, dim ots lle mae llwybrau bywyd wedi'n arwain yn y byd, "dyw pobl Dinas byth yn pasio'u gilydd ar y stryd".

Roedd Dinas yn swnio'n le caled a thlawd, lle yr roedd plismyn yn gorfod troedio mewn parau; lle 'roedd "Robin Hood" yn rhentu stafell; yn le y byddai pobl yn dweud "ti erioed yn dod o fanno!"; ond eto yn bentref oedd yn berwi o ysbryd cymunedol a chariad, lle roedd y ffermwr lleol yn rhannu ei ieir adeg y Nadolig oherwydd nad oedd am weld unrhyw deulu yn dioddef heb ginio ar y diwrnod sanctaidd hwnnw.

Gobeithio y bydd y rhai a gyd-deithiodd ar hyd y llwybr i ddinas Obama yn dal i gredu trwy'r dyddiau duon sy'n sicr o ddod. Mae pentre bach Dinas yn gallu dysgu un peth i ni i gyd, mewn undeb a chymuned y mae nerth, a dyddiau duon, caledi a chyd-alaru sy'n bwrw cymuned at ei gilydd.

Gobeithio na fydd pleidleiswyr Obama yn pasio ei gilydd ar y stryd ymhen blwyddyn neu ddwy.

...

Wednesday, November 05, 2008


Adferwyd Ffydd

Obama

Diolch

...

Sunday, November 02, 2008


Cobiau

Rwyf wastad wedi bod ychydig yn bryderus o geffylau. Roedd stori ar yr aelwyd am rywun o'r teulu gafodd ei gicio yn ei wyneb gan geffyl gwedd yn Ffair y Borth, ac fe gollodd hwnnw druan gwaelod ei ên. Roedd hyn rywbryd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe wnaethpwyd gên metel iddo. Roeddwn felly wastad yn cysylltu ceffyl efo darlun o hen ddyn wedi colli hanner ei wyneb.

Doedd y ceffyl a welais wrth fynd am dro heno heibio gaeau Bridfa Gwarchod ddim yn fygythiol o gwbl; yn wir, roedd rhywbeth trist am yr hen ferlen, ac os mai'r llygaid yw ffenestr yr enaid, roedd gan hon enaid ddwys. Roedd fel edrych i wyneb bodolaeth holl-wybodus a doeth. Y fam ddaear efallai.

Cymdeithas y Cobiau Cymreig

...