geiriau gwirion am hyn a'r llall

Wednesday, January 04, 2006

Blwyddyn Newydd Dda

Wel, fe barodd y belt cefn am bron i ddiwrnod cyfan, cyn i'r boen o gael bloneg yn dadleoli yn erbyn y gwregys fy ngorfodi i roi'r teclyn gwyrthiol yn ôl yn y bocs. Fe dynnaf allan eto pan fyddaf i lawr i ddeg stôn.

Wedi gwyliau hirach nag arfer, roedd dychwelyd i'r gwaith yn dipyn o sioc i'r system. Doedd ddoe ddim yn wael o gwbl, ond erbyn heddiw, roedd y fflodiart wedi agor ar ebyst, a phroblemau a oedd wedi bod yn cuddio'u pennau dros yr wyl nawr yn chwyrnu a dangos eu dannedd dros riniog fy nesg.

Cawsom hefyd newyddion trist iawn bod hen gyfaill annwyl ac unigryw wedi'n gadael, a hynny yn ddychrynllyd o sydyn. Felly rwy'n sgwennu hwn yn groes i'r graen, gan nad yw blog yn flog heb eiriau na lluniau i'w gynnal.

Rywbryd, efallai, fe soniaf am y cyfrifiadur newydd, hynt a helynt yr hyn a'r llall, teithiau diddorol, troeon trwstan ac abswrdiaeth bywyd, ond heno, a'r byd yn edrych yn le peryg, a bywyd yn teimlo fel edefyn brau, taw piau hi.