geiriau gwirion am hyn a'r llall

Tuesday, March 31, 2009


Marcio

Gosod marc. Marciau.

Mae'r gair "marcio" yn gallu golygu pob math o bethau gwahanol.

I blentyn ysgol neu fyfyriwr, mae marciau yn golygu canlyniad; cael gwybod pa mor dda neu wael y mae ef neu hi wedi gwneud mewn arholiad, neu mewn traethawd.

I athro, mae marcio, medde nhw wrthyf i, yn broses - ac yn golygu gwaith blinderus, diflas iawn.

I'r cwmni oedd wrthi ym maes parcio'r gwaith, roedd yn golygu mesur a pheintio llinellau syth, gwyn, coch a melyn. A lluniau rhyfedd o gerddwyr.

I'r gyrrwr, mae marciau yn dynodi rheolau i'w dilyn, rhybuddion a llinellau sy'n eu cadw ar y llwybr cywir.

I gathod a chwn, mae marcio yn golygu diffinio tiriogaeth.

I nifer fawr o ddynion, mae Marc yn dynodi enw, ac i Gristnogion, mae'n dynodi un o ddisgyblion Crist.

Weithiau mae marc yn golygu rhywun sydd dan fygythiad - bod "marc arno, neu arni".

Mae rhai pobl yn creu marc.

Mae pel-droedwyr yn marcio eu gilydd ar y cae chwarae.

Mae marcio rhywbeth yn gallu tynnu sylw, ac mae rhai pobl yn dweud "marcia hwn, fe fydd....."

I'r anllythrennog, mae'r marc yn dynodi arwyddo.

I'r pleidleisiwr, mae gosod marc yn dynodi dewis.

Ond fel dywedodd Stalin, nid y bobl sy'n gosod eu nod ar ffurflen bleidleisio sy'n penderfynu canlyniad etholiad, ond yn hytrach y rhai sy'n cyfri'r marciau hynny.

No comments: