geiriau gwirion am hyn a'r llall

Sunday, May 20, 2007

Seithlliw'r Enfys

Ar waelod yr ardd acw mae planhigyn Seithlliw'r Enfys, a oedd yn wreiddiol yn binc, ond sydd erbyn hyn yn tyfu blodau lliw glas tywyll. Arwydd o asid, ynteu alcali, nid wyf yn cofio, ond arwydd o ryw newid creiddiol, mae hynny'n siwr. Dros y blynyddoedd, mae'r lliw nid yn unig wedi newid, ond hefyd wedi dwysau, tra bod y planhigyn druan yn heneiddio ac yn edwino. Mewn llenyddiaeth o leiaf, mae natur weithiau'n darogan yr hyn fydd yn digwydd i ni feidrolion y ddaear, neu'n adlewyrchu cyflwr meddwl cymeriad mewn stori neu ddrama. Tybed beth felly y mae'r planhigyn truenus ar waelod yr ardd yn ei ddarogan ?

Ys gwn i pa newyddion a ddaw o'r Cynulliad yr wythnos nesaf? A fydd yna glymblaid enfys, clymblaid coch-ag-oren, neu coch-a-gwyrdd. Fe fyddai'n rhyfedd (ac annheg arnynt) os na fydd y cochion yn rhan o'r llywodraeth, ond dyna ni, yn tydi gwleidyddiaeth yn gem fudr.

Beth ddigwyddodd i'r wleidyddiaeth gonsensws yr oeddem yn ei ddisgwyl ers stalm?

Tynnwch at eich gilydd, wir ddynion a merched, does dim llawer o wahaniaeth rhyngddoch mewn gwirionedd! ;-)

Ond un peth sy'n sicr, mae'r planhigyn ar waelod yr ardd wedi darogan yn anghywir - siawns na fydd y Cynulliad wedi troi'n gyfangwbl las.

No comments: