geiriau gwirion am hyn a'r llall

Tuesday, May 22, 2007

Remploy

Ers stalwm stalwm, pan oeddwn i'n cychwyn ar fy siwrne ym myd bach y gweithle, peth cyffredin iawn oedd gweld dodrefn Remploy o gwmpas y lle. Nhw hefyd oedd yn cael y gwaith o rwymo cylchgronau yn gyfrolau - cyn dyddiau cadw y fath bethau anhylaw mewn bocsus di-asid. Fe ddaeth tro ar fyd i Remploy, a phrin, yn oes y "gwerth gorau" y clywir enw'r cwmni, sy'n cynnig gwaith i bobl gydag anabledd. Tydi ystyriaethau cymdeithasol, neu o ble y daw'r cynnyrch, yn cyfri am ddim bellach. Rhaid cael y "gwerth gorau" o pob dimau goch o arian cyhoeddus. A does dim modd ffactora "gwerthoedd gwâr", megis cynnal cymunedau, cefnogi achosion da na dim oll tebyg i mewn i'r dewis.

Cefais gerydd gan aelod gweddol amlwg o'r Cynulliad unwaith (efallai y bydd yn fwy amlwg fyth yn reit fuan?) am ddefnyddio cwmni o Loegr i gyflenwi rhywbeth arbenigol iawn. Wel, nid fi oedd wedi gwneud, ond fi gafodd y bai! Doedd y boneddwr a dim syniad beth oedd goblygiadau ei bolisiau ei hun. Dw i ddim yn credu bod ganddo ar y pryd, syniad bod rheoliadau yn bod. Jest picio allan a phrynu'r gwasanaeth gan foi i lawr y lôn! Erbyn hyn mae system reit hwylus ar gael tros Gymru sy'n roi cyfle gwell i gwmniau gystadlu, ac fe annogir cyrff cyhoeddus i droi ato i brynu eu beiros etc.

Ond, mae'r rheoliadau (EU a lleol) o ran pwrcasu yn gallu bod yn eithriadol o gymhleth ac anodd, a tydyn nhw ddim yn ffafrio prynu lleol, neu brynu gydag un llygad ar werthoedd y tu hwnt i'r geiniog. Mae rheoliadau mor llym a chymleth, nes bod byddin o fiwrocratiaid wrthi yn ddyfal yn sicrhau bod pob bocs wedi'i dicio, a phob un ceiniog o'n trethi yn werth dwy.

A nawr mae Remploy yn cau eu ffatrioedd, ac am ganolbwyntio ar geisio ffendio gwaith "mainstream" i'w gweithwyr. Yr economi fyd eang, a rheoliadau gwerth gorau yn rhoi un ergyd arall, ac un poenus iawn i gynhyrchu yng Nghymru a thu hwnt.

Gwybod pris popeth a gwerth dim byd.

No comments: