geiriau gwirion am hyn a'r llall

Sunday, May 20, 2007

Traed mewn cyfyngder

Fe ddaw y ffugenw Traed Mawr o'r enw anffodus a ddefnyddais fel hwyl (in-joke) wrth agor 'cownt flickr, sbel hir yn ôl.

Mae sôn bod rhai dynion sydd yn "challenged" mewn rhyw ffordd yn gwneud iawn am hynny trwy, dyweder, yrru car mawr, neu gar gyda bonet hir. Waeth i mi gyfaddef fy mod innau hefyd a gwendid "maint" ac rwyf yn yr is-ymwybod wedi ceisio cuddio hyn trwy greu i mi fy hun ffugenw ymffrostgar. Enw gwirion iawn felly yw Traed Mawr i rywun gyda thraed maint 6. Mae'n rhy hwyr ei newid, siawns, a rhywfodd mae yna bersona wahanol i mi, rhyw alter ego, yn bodoli ac yn cerdded yn dalog yn y rhithfyd, ac fe fyddai ei ddiarddel fel bradychu cyfaill.

Wyddoch chi pa mod anodd yw cael hyd i sgidie cyfforddus maint chwech i ddynion, hyd yn oed yng Nghymru - gwlad y bobl bychain? Anoddach fyth eu darganfod mewn sêl. Ar daith rhwng de a chanolbarth yr wythnos o'r blaen, fe arhosais am baned yn McArthur Glen, ger Penybont. Wele yno siop sgidie Clarks, gyda rhesi o sgidie maint 6, a rheini oll am bris gostyngol. Dewis o sgidie maint chwech. Rhyfeddol. Felly os ydych fel finnau a thraed maint plentyn, ond ddim am gerdded o gwmpas mewn Kickers, galwch heibio Glyn McArthur, ac fe allwch droedio fel dyn.

Ys dywed fy mam ers talwm, mae traed bach yn arwydd o "fridio da". Traed bach amdani felly, ond peidiwch sôn gair wrth fy Mrawd Mawr.

No comments: