geiriau gwirion am hyn a'r llall

Sunday, October 12, 2008


Taliban Aberhosan

Rhai blynyddoedd yn ôl, fe dynnais lun o gofeb lechen Wynford Vaughan Thomas, ger Aberhosan. Dyn reit fach oedd WVT, os dw i'n cofio, yn grwn braidd, ac yn ymdebygu i Bwda bach pan oedd yn ymollwng i gadair freichiau. Un o Abertawe ydoedd, a oroesodd ddau ryfel byd, ac a fu yn uffernlefydd y ddaear adeg yr ail ryfel byd, ar ran y BBC - gan gynnwys cyflwyno'r adroddiadau cyntaf o Belesen. Aeth ymlaen i fod yn un o sefydlwyr Teledu Harlech, ac roedd ei gyfres ddadleuol ar hanes Cymru, "the Dragon has Two Tongues" efo Gwyn Alf Williams yn uchafbwynt darlledu i'r 80au.

Roedd WVT yn chwyrn o blaid hanes a threftadaeth Cymru, ac roedd yn flaenllaw iawn yn yr ymgyrch i ddiogelu y Gymru wledig, a chynnig mynediad i'r werin bobl at harddwch gwyllt eu hetifeddiaeth dirluniol.

Roedd llawer iawn o grafiadau ar wyneb y gofeb, y rhan fwya ohonynt gan ymwelwyr estron. Efallai nad oeddynt cynddrwg a'r graffiti adawyd gan filwyr yr UN yng ngorllewin y Sahara, ond pwy ddiawl oedd y Toms y Dicks a'r Harrys yn meddwl oeddan nhw yn sgriffinio ein cofeb ni, sydd yno i dynnu sylw at harddwch a hanes ein tirlun, ac i roi enwau Cymraeg ar y bryniau a'r copaon?

Erbyn heddiw, mae'r cyngor sir eisiau adfer y gofeb, ac roeddwn yn methu peidio stopio wrth yrru heibio, er mwyn gweld beth oedd hyd a lled y ddinistr graffitaidd erbyn hyn.

Mae Dick a Harry yn siwr o fod yno yn rhywle, ond bod blynyddoedd o law a gwynt wedi chwipio'i edau main o 'sgrifen i ebergofiant, ond mae rhyw Tom 2004 wedi goroesi yn rhyfeddol ar dalcen yr hen Wynff. Ond gwae, nid ymosodiad estron yn unig sydd yma bellach. Mae'r Cymry wedi troi ar Wynff, gan ei gyhuddo o fod yn gwdyn taeog. Wel, efallai ei fod, os ydi rhywun yn edrych arno efo un llygad ddall a gwrando arno efo chlust hollol fyddar.

Ochr isaf y wal lechi sy'n cario pwysau'r gofeb mae'r geiriau "Kick the English Out", wedi'i baentio yn amlwg, mewn rhyw hen liw gwyn hiliol.

Ys gwn i pwy yw'r Taliban Cymreig hyn sy'n difethau arwyddion o'u hanes eu hunain, oherwydd nad yw'n plesio eu dehongliad cyfoes hwy?

Dinistried y bwda Cymreig!

...

No comments: