geiriau gwirion am hyn a'r llall

Thursday, October 30, 2008


Rhwng yr Arth a'r Ddraig

Bron yr un adeg ag oedd Llywelyn ein Llyw Olaf yn bustachu yn yn erbyn Edward, roedd ymerodraeth fwya'r byd eisoes wedi'i sefydlu gan Genghis Khaan a'i olynwr. Roedd yr ymerodraeth Fongolaidd yn ymestyn o Wlad Pwyl, draw i Korea, i lawr o Siberia rynllyd yr holl ffordd i Oman chwilboeth.

Heddiw mae Mongolia, sy'n dal yn wlad anferth, yn sefyll rhwng Rwsia a Tsieina. Mae hanes y wlad yn ryfeddol, a'i sefyllfa heddiw yn hynod ddifyr (o ran gwleidyddiaeth, diwylliant, crefydd a ffordd o fyw). Mae ei phoblogaeth, sy'n llai nag un Cymru, yn byw ar 1.5 miliwn kilomedr sgwar o dir, gyda thua 30% o'r bobl yn byw bywyd nomadaidd. Allwch chi feddwl am rywle mwy gwahanol i Gymru, heblaw wyneb y lleuad?

Ond eto, mae rhai ffeithiau am y wlad yn canu cloch. Mae'r economi yn dibynnu ar amaethyddiaeth a mwyngloddio, mae'n datblygu ac yn dechrau dibynnu mwy ar dwristiaeth. Ac mae cwmniau technolegol o'r dwyrain pell wedi dechrau buddsoddi yn helaeth yn y wlad.

Wele eu safle twristiaeth.

Rhai blynyddoedd yn ol, roedd dyn ifanc acw yn y gwaith oedd yn treulio bob munud sbar yn darllen llyfrau oedd yn ei gynorthwyo i ddysgu iaith y wlad, sef Mongoleg. Roedd Emyr Pugh wedi gwirioni ar y wlad. Er fy mod yn ymwybodol o'i ddawn anhygoel efo ieithoedd, a'i natur unplyg, nid oeddwn yn ymwybodol o ddawn arall oedd ganddo, sef ei fod yn chwip o ffotograffydd da.

Nawr yn byw yn Mongolia, mae Emyr wedi dechrau postio lluniau dogfennol o'r wlad ar flickr. Mae nhw'n werth eu gweld, yn dryllio'r ddelwedd sydd gennym o wladwyr nomadig yn crwydro'r gwastatir efo'u Yaks a'u camelod.

Da chi, ewch am gip draw yma


...

No comments: