geiriau gwirion am hyn a'r llall

Monday, August 11, 2008


Slag


Pam oeddwn yn fach iawn (tydw i ddim yn dal iawn nawr, erbyn meddwl), roeddwn wrth fy modd yn gwrando ar feibion y tir yn trafod dulliau ffermio.

Roedd rhyfeddodau i'w clywed, a thermau dirgel, megis "hau giwana" neu "hau basislag".

Siom fawr, ychydig yn ddiweddarch yn fy mywyd, oedd darganfod mai pelets nitrogen oedd "giwana", dim hyd yn oed baw adar (guano) wedi'i gludo'n ofalus draw dros y moroedd mawr. A wedyn deall mai stwff erchyll llwyd, drewllyd oedd "basislag" - "basic slag", yn llawn calch a phosffad o'r broses cynhyrchu dur.

Drylliwyd rhamant yr enwau, ac fe gollwyd mymryn o hyder a ffydd yn y werin datws. Pa mor anaturiol oedd taenu caeau efo carthion gwaith dur, neu hau lympiau gwyn a ddaw o olew, dros ein porfeydd gwelltog? Ac yn waeth na hynny, defnyddio geiriau twp, bastardiedig i ddisgriffio'r gwaith?

A phan ddryllir rhamant ac ymddiriedaeth, mae'n naturiol i chwerwder yrru rhywun i wneud pethau y bydd, efallai, yn difaru yn y pendraw.

Ys gwn i, o ystyried y siom a gafwyd mewn slag, pa hanes o frad neu ddicter a yrrodd rhywun arall i sefyll ar ganol y lôn bost brysur i ddatgan hyn?

No comments: