geiriau gwirion am hyn a'r llall

Tuesday, August 12, 2008

Peidiwch gwylltio

ond mae treuliau cynnal ail-gartrefi ein harwyr cenedlaethol a lleol, yr amhrisiadwy aelodau etholedig o'r Cynulliad Cenedlaethol, ar gael i bawb i'w gweld.

Roedd pori trwy'r rhestr, sy'n cynnwys popeth o soffas moethus, frijis, ambell i deledu arbennig o ddrud, i lawr i top-ups ffĂ´nau symudol a rheliau dal lenni, yn teimlo braidd yn chwithig. Fel tasa rhywun wedi agor drws y sychwr dillad anghywir mewn golchfa, a ffendio'i hun yn ymbalfalu drwy trons a nicyrs y teulu drws nesa trwy gamgymeriad.

I arbed i chi orfod chwilio yn rhy galed dyma'r linc i'r wybodaeth.

No comments: