geiriau gwirion am hyn a'r llall

Monday, January 30, 2012

Nannau

Priododd Huw Nannau Hen, ferch i Rys Fychan, Corsygedol, sef Annes. Buont yn briod am bron i 60 mlynedd. Roedd Siôn Phylip yn fardd i Gorsygedol. Canodd ef foliant i'r Nannau:

Pwy yw'r dŷn pur diweniaith
pand yr un penadur iaith
pa ben Sir pawb yn neshau
pont a nen pan't Huw Nannau......

Gan Siôn Phylip mae englyn i dŷ'r Nannau:

Tu ffyddlon tirion i tario Cyfion
Cyfoeth a fydd yno
Llawnder ai gyfiawnder fo
Lleinw byth llawen obeithio.

No comments: