skip to main |
skip to sidebar
Hwiangerdd dydd 13Sion a Siân
Sion a Sian, oddeutu'r tan,
Yn bwyta blawd ac eisin man
Hwianderdd y dydd 12Gyrru i Gaer
Gyrru, gyrru, gyrru i Gaer;
I briodi merch y maer;
Gyrru, gyrru, gyrru adre,
Wedi priodi ers diwrnodie.
Hwiangerdd y dydd 11Sgwrs
"Wel," meddai Wil wrth y wal,
Wedodd y wal ddim wrth Wil.
.
Hwiangerdd y dydd 10I'r Ysgol
Mi af i'r ysgol fory,
A'm llyfyr yn fy llaw;
Heibio'r Castell Newydd,
A'r cloc yn taro naw;
Dacw mam yn dyfod,
Ar ben y gamfa wen,
"A rhywbeth yn ei barclod,
A phiser ar ei phen.
Mi af i'r ysgol fory,
A'm llyfyr yn fy llaw,
Heibio'r Sgubor Newydd,
A'r cloc yn taro naw;
O, Mari, Mari, codwch,
Mae heddyw'n fore mwyn,
Mae'r adar bach yn canu,
A'r gog ar frig y llwyn.
Hwiangerdd y dydd 9Medde Bibyn wrth Bobyn
"A ddoi di i'r coed?" medde Bibyn wrth Bobyn,
"A ddoi di i'r coed?" medde Richard wrth Robin,
"A ddoi di i'r coed?" medde'r bachgen ei hun,
"A ddoi di i'r coed?" medde nhw bod yg un.
"Beth wnawn ni yno?" medde Bibyn wrth Bobyn,
"Beth wnawn ni yno?" medde Richard wrth Robin,
"Beth wnawn ni yno?" medde'r bachgen ei hun,
"Beth wnawn ni yno?" medde nhw bod yg un.
"Hela'r dryw bach," medde Bibyn wrth Bobyn,
"Hela'r dryw bach," medda Richard wrth Robin,
"Hela'r dryw bach," medde'r bachgen ei hun,
"Hela'r dryw bach," medde nhw bod yg un.
"Beth wnawn ni wedyn?" medde Bibyn wrth Bobyn,
"Beth wnawn ni wedyn?" medde Richard wrth Robin,
"Beth wnawn ni wedyn?" medde'r bachgen ei hun,
"Beth wnawn ni wedyn?" medda nhw bod yg un.
"Gwneyd potes a fo," medde Bibyn wrth Bobyn,
"Gwneyd potes a fo," medde Richard wrth Robin,
"Gwneyd potes a fo," medde'r bachgen ei hun;
A boddi mewn potes ddaru nhw, bod yn un.
.
Hwiangerdd y dydd 8Tarw corniog
Tarw corniog, torri cyrnau,
Heglau baglog, higlau byglau;
Higlau byglau, heglau baglog,
Torri cyrnau tarw corniog.
.
Hwiangerdd y dydd 7Llong fy nghariad
Dacw long yn hwylio'n hwylus,
Heibio'r trwyn, ac at yr ynys;
Os fy nghariad i sydd ynddi,
Hwyliau sidan glas sydd arni
.

Hwiangerdd y dydd 6Y Wylan
Y wylan fach adnebydd
Pan fo'n gyfnewid tywydd;
Hi hed yn deg, ar aden wen,
O'r mor i ben ymynydd.
Hwiangerdd y dydd 5 Y Lleuad
Mae nhw'n dwedyd yn Llanrhaiad,
Mai rhyw deiliwr wnaeth y lleuad;
A'r rheswm am fod goleu drwyddo,
Ei fod heb orffen cael ei bwytho.
Hwiangerdd y dydd 4I'r Felin
Dau droed bach yn mynd i'r felin,
I gardota blawd ac eithin;
Dau droed bach yn dyfod adra,
Dan drofera, dan drofera.
Hwiangerdd y dydd 3Pwsi meri mew
Pwsi mew, pwsi mew,
Lle collaist ti dy flew?
"Wrth gario tan
I dy modryb Siân,
Yng nghanol eira a rhew."
Hwiangerdd y dydd 2Si hei lwli
Si hei-li-lwli, 'r babi,
Mae'r llong yn mynd i ffwrdd;
Si hei-li-lwli, 'r babi,
Mae'r capten ar y bwrdd
Hwiangerdd y dyddYr Ebol Melyn
Mae gen i ebol melyn,
Yn codi'n bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
Mi neidia ac mi brancia
O dan y feinir wen,
Fe reda ugain milldir
Heb dynnu'r ffrwyn o'i ben