Mae'r Arglwydd yn cofio y dryw yn y drain,
ei lygad sy'n gwylio y wennol a'r brain;
nid oes un aderyn yn dioddef un cam,
na'r gwcw na bronfraith na robin goch gam.
Rhown foliant i Dduw am ein cadw ninnau'n fyw,
am fwyd ac am ddillad moliannwn ein Duw;
rhown foliant i Dduw am ein cadw ninnau'n fyw,
am fwyd ac am ddillad moliannwn, moliannwn ein Duw.
Mae'n cofio'n garedig am adar y to,
caiff pob titw bychan ei fwyd yn ei dro;
ehedydd y mynydd a gwylan y môr
sy'n derbyn eu cinio a ddwylo yr Iôr.
Yr Arglwydd sy'n cofio y lili fwyn, wen
a'i gwisgo yn hyfryd o'i thraed hyd ei phen;
rhydd wisgoedd o borffor i'r grug ar y bryn
a mantell y rhosyn yn goch ac yn wyn.
Mae'n rhoddi hardd fenig i fysedd y cŵn
a gwelwch y ddraenen mor deg yn ei gŵn;
briallu y cloddiau a mwyar y ffos,
gofala amdanynt bob dydd a phob nos.
Gomer M Roberts (1904 - 93)
geiriau gwirion am hyn a'r llall
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment