Am 5 o'r gloch ar 23 Mawrth, fe fydd pleidlais bwysig iawn yn Senedd Ewrop.
Fe fydd y MEPsau yn penderfynu a fydd y syniad dadleuol iawn i ymestyn hawlfraint i recordiadau sain o 50 i 95 mlynedd yn cael ei wireddu.
Efallai nad yw'n hysbys i bawb, ond mae hawlfraint ar ddeunydd clyweledol yn cyfyngu yn ddirfawr iawn yr hyn y gall archifau wneud gyda deunydd o'r fath. Gyda mathau eraill o ddeunydd, gall llyfrgelloedd ac archifau wneud tipyn i'w diogelu a'u rhoi ar gael yn gyhoeddus. ond gyda deunydd clyweledol, does dim "delio'n deg". Mae hyn oherwydd pwysau enfawr cwmniau mawrion ar y llywodraeth i warchod eu monopoliau.
Mae archifau (fel arfer, archifau tlawd) y wlad yn ceisio eu gorau i ddiogelu deunyddiau, ac yn mynd i drafferth a chost i geisio sicrhau bod y deunydd clyweledol ar gael i'w ddefnyddio gan bobl y wlad.
Yn aml iawn, yr archifau sy'n gyfrifol bod y deunydd yn goroesi o gwbl, yn gwarchod y pethau, yn eu diogelu, ac yn tynnu sylw at yr etifeddiaeth. Ond pan ddaw i'r crynsh, a bod archif eisiau defnyddio rhywbeth o'u casgliad, os yw'r hawlfraint gan un o'r cwmniau mawr, rhaid talu, a weithiau talu'n ddrud, am gael defnyddio'r eitem. A hyn er nad yw deiliad yr "hawl" â dim diddordeb ddeallusol yn yr eitem, a hwythau heb wario dimau goch i wneud yn siwr bod yr eitem yn goroesi. Mae beth sydd ar gael i'w weld, ei ddigido ac yn y blaen, felly'n cael ei gyfyngu i'r hyn sy'n fforddiadwy, a/neu'n syml. Mae cannoedd o filoedd o eitemau mewn archifau na fydd yn gweld golau dydd, oherwydd eu bod yn "broblematig" o ran hawlfraint. Ond fydd rhai o'r cwmniau mawr sydd berchen yr "hawliau" byth yn gweud defnydd ohonynt chwaith. Yn aml does ganddynt ddim copi o'r deunydd eu hunain! Comoditi ydi hawlfraint iddynt, rhywbeth i'w brynu a'i werthu.
A nawr, i wneud materion yn saith gwaeth i archifau, mae'r UE yn bwriadu ymestyn hawlfraint ar recordiau, heb un dim o gwbl i roi'r hawl i'r archifau sy'n edrych ar ôl y recordiau i wneud dim gyda hwy. Mae'r peth yn warthus, a phe bai trigolion y wlad yn syddweddoli faint mae "hawlfraint" yn eu gostio iddyn nhw, bob un wan jack sy'n talu eu trethi, fe fyddent yn arswydo.
No comments:
Post a Comment