Eira mân
Tra bod gerwyntoedd oer y gaeaf ariannol yn sgubo'r wlad, fe ddaeth rhewynt go iawn i Aber heddiw.
Tynnwyd y llun uchod o risiau'r Llyfrgell Genedlaethol, eiliadau wedi i storm o eira ysgubo dros y dref, â heulwen braf yn erlid y cymylau duon i gyfeiriad y môr.
Gobeithio bod hyn yn arwydd, a bydd ein gwleidyddion yn gweld y goleuni, ac y bydd y storm gyllidol sydd yn bygwth ysgwyd y gadarnle Gymraeg honno i'w seiliau yn chwythu'i phlwc yn fuan.
....
.
geiriau gwirion am hyn a'r llall
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comment:
Tybed ydy hwn i fod i edrych fel carreg fedd? Nid yn anaddas o bosib?!
Post a Comment