Di-l'n
Newydd wylio'r ffilm hyfryd The Edge of Love (imdb). Mae'r ffilm yn cloi gyda digwyddiad hynod ym mywyd Dylan Thomas. Rhyfedd a braf oedd clywed cymeriadau'r ffilm yn defnyddio'r ynganiad Cymraeg o enw'r bardd, gan mai'r ffurf eingl-americanaidd "Di-l'n" a glywir fel arfer.
Mae'r stori wedi'i seilio ar un o lyfrau David Thomas, dyn sydd wedi treulio blynyddoedd yn ymchwilio i fywyd Dylan Thomas, ac wedi cynhyrchu corff o waith hynod ddifyr.
Ymhlith ei gyhoeddiadau mae dwy gyfrol o "Dylan Remembered". Seiliwyd y llyfrau hyn ar dapiau sain o gasgliad Colin Edwards, sydd yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
Ymhlith y tapiau hynny, y mae cyfweliad gyda mam Dylan, sy'n trafod ei blentyndod mewn ffordd hyfryd, gonest a ffraeth. Yn ystod y cyfweliad mae Colin Edwards yn ei holi am ynganiad yr enw - a'i Dylan ynteu Di-l'n ydoedd. Ac yn wir i chi, yr ynganiad Seisnig oedd yn cael ei arfer.
Felly, fe dybiaf, er mor driw i'r cyfnod y mae'r ffilm, ac er mor hyfryd yw clywed yr ynganiad Cymraeg ar y sgrin fawr - mae'r dystiolaeth lafar yn gwadu ei gywirdeb yn y cyd-destun hwn.
Damia archifau felly am gofnodi'r gwir, yn hytrach na'r hyn yr hoffem i'r gwir i fod.
geiriau gwirion am hyn a'r llall
Saturday, September 06, 2008
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment