Deffro
Nid pawb sy'n deffro yn y bore i glywed cyhoeddiad ar newyddion y radio yn datgan nad ydyn nhw erioed wedi bodoli. Yn rhyfedd iawn, dyna ddigwyddodd i mi y bore 'ma.
Felly os nad ydw i yn bodoli, tydi yr hyn yr wyf yn ei ddweud ddim yn bodoli chwaith, nag ydi? Felly does dim ots beth dwi'n ei ddweud, nag oes?
Yn ôl y BBC a Phrifysgol Bangor, does neb erioed wedi casglu recordiau, cylchgronau ac ati y sîn "pop" yng Nghymru. Ond mae'r cam hwn yn mynd i gael ei unioni gan adran gerdd y colej ar y bryn. Da iawn nhw medde pawb.
Mae'r BBC bob amser yn gywir, a'u hymchwil treiddiol yn ddilychwyn. Felly mae'n rhaid mai nhw sy'n gywir, a wedi breuddwydio ydw i 'mod i wedi bod yn trefnu i gasglu'r stwff cerddorol hwn, ei ddiogelu a'i wneud ar gael i'r cyhoedd ers saith mlynedd ar hugain.
Ond os nad ydw i yma, fedra i ddim breuddwydio chwaith, heb sôn am sgwennu hwn. Ac os ydw i ddim wedi'i sgwennu, fedrwch chi ddim ei ddarllen.
Wel, dyna biti.
Rhybudd am eira a rhew
49 minutes ago
1 comment:
Mae'n annoying pan mae rhywun yn honii mae nhw yw'r cyntaf i wneud hyn ar' llall, rhywbeth sy'n digwydd yn aml yn y byd Cymraeg - ond fel arfer mae nhw rhyw 2-3 blynedd (neu fwy) ar ei hôl hi.
Post a Comment