Nadolig Llawen i'm holl ddarllenwyr - sef ar hyn o bryd - fi fy hun!
Dwi'n dal yn ceisio dysgu sut i "flogio", ac wedi treulio oriau difyr yn ceisio Cymreigio'r templad, ond yn methu darganfod o ble y mae rhai negeseuon Saesneg yn tarddu ohonynt.
Fe ddaeth Sion Corn neithiwr, a chyflwyno i mi sawl anrheg, gan gynnwys dau beth sy'n dangos fy oed, sef belt magnetig i wella cyflwr fy nghefn (sgersli bilif), a rhyw siaced gynnes heb freichiau - unwaith eto i geisio cadw'r cefn yn gynnes braf.
Rwy'n edrych ymlaen at ddarllen anrheg arall, sef hanes Alan Bennett "Untold Stories", ond ar y funud, disgrifiad y belt-cefn gwyrthiol sy'n fy nifyrru.
"Special chararacters of this loin belt: Super class loosening and tightening was used and contains 104 elastic filaments per 4'' width (can be lengthened by 1/3 of the total length). Long life pile was used, so that can put it on or out freely whiles a long life. Does not harm the skin nor absorb the sweat and emit bad smelling at all. Minutely knitted, so that the thread do not jump out at all. 26 magnets."
Wow dwi'n edrych ymlaen at ei wisgo.
Addas iawn, felly, bod anrheg arall ar y bwrdd, sef llyfr oddi wrth y ferch gyda'r teitl "The Joys of Engrish: strange and wonderful misuses of the English language" gan Steven Caires.
Gobeithio fod CD Meinir Gwilym yn swnio'n well na theitl un o'i chaneuon, sef "Cachu ar y walia".
Amser mynd draw at y stwffin.
Llun y Dydd
20 minutes ago
No comments:
Post a Comment